“Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” – Holi ac Ateb gyda Sian Richards

Roedd Iechyd Meddwl Cymru wedi cyfweld Sian Richards  yn ddiweddar ar ystod o faterion yn Strategaeth iechyd meddwl newydd y Llywodraeth, “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”.

Roedd testunau a oedd wedi eu trafod yn ystod y cyfweliad gyda Sian, Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed Llywodraeth Cymru, yn cynnwys: mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth, pobl ifanc, gofalwyr, atebolrwydd a sut y bydd y Strategaeth yn gwella bywydau’r bobl sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl yng Nghymru. 

Dyma’r hyn a ddywedodd Sian…

Beth oedd y prif bryderon a fynegwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn ystod y cyfnod ymgynghori ar “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ a sut y bydd y Strategaeth yn sicrhau bod modd mynd i’r afael â’r materion hyn? 

Fel y byddech yn disgwyl, roeddem wedi clywed sawl barn wahanol yn ystod yr 17 cyfarfod a gynhaliwyd ar draws Cymru, pan oedd pobl yn agored wrth rannu eu profiadau – yn rhai da a drwg. Yn debyg i hyn, roeddem wedi darllen nifer o faterion gwahanol yn yr ystod o ymatebion ysgrifenedig a dderbyniwyd, bron i 300 i gyd.  Roedd y themâu mwyaf cyffredin yn cynnwys: yr angen i ddarparwyr gwasanaeth i greu diwylliant ac agweddau sydd yn ysbrydoli gobaith ac uchelgais; bod modd mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac ymhlith y cyhoedd; a bod gwasanaethau yn diwallu anghenion iechyd corfforol yn ogystal ag anghenion iechyd meddwl. 

Roedd yr angen am dai diogel  hefyd wedi ei godi dro ar ôl tro. Roedd hyn yn atgyfnerthu’r ffaith na all “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” fod yn Strategaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig ond yn hytrach yn un y mae’r sector cyhoeddus ehangach ac yn wir yr holl sectorau eraill yn dwyn perchnogaeth ohoni. 

Rydym wedi sicrhau bod yr holl bryderon yma wedi dod yn weithredoedd blaenoriaeth yn y Cynllun Cyflenwi.  

Sut y bydd “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” yn gwella bywydau’r bobl sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu heffeithio ag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru?

Mae’r blaenoriaethau gwasanaeth yn y Strategaeth yn atgyfnerthu’r ffaith y dylai pobl dderbyn y gwasanaethau cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir gyda’r deilliannau yn gosod safonau uchel. Yn ychwanegol at hyn, dylai nifer o nodweddion newydd  yn y Strategaeth hon ddwyn gwelliannau i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

Mae’r dull Llywodraeth gyfan yn golygu fod mynd i’r afael ag afiechyd meddwl yn mynd i fod yn flaenoriaeth i holl adrannau’r Llywodraeth – nid yn unig y GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hefyd yna adlewyrchu’r anghenion sydd wedi eu hamlinellu gan y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru). Mae hyn yn golygu, er enghraifft, bod defnyddwyr gwasanaethau gofal eilaidd yn derbyn cydlynydd gofal, a lle bynnag bo’n bosibl, yn mynd i fod yn bartneriaid o ran datblygu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth sydd yn adlewyrchu’r agweddau bywyd lle y mae anghenion ganddynt.

Mae’r ffaith fod y Strategaeth yn cynnwys pob oedran yn golygu bod gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion, nid ar ffiniau oedran, a bod y pontio rhwng gwasanaethau, megis gwasanaethau i Blant a’r Glasoed (CAMHS) i wasanaethau i oedolion neu o oedolion i oedran hŷn, yn mynd i gael ei reoli’n well. 

Mae’r Strategaeth yn cefnogi ‘Amser i Newid Cymru’ yn gryf sydd yn golygu ymdrech gyfun er mwyn mynd i’r afael â’r stigma a’r gwahaniaethu sydd yn cael eu hwynebu gan bobl ag afiechyd meddwl. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda phartneriaid yn y Trydydd Sector, gan gynnwys Hafal, i ddatblygu deilliannau drwy lygaid defnyddwyr gwasanaeth yn golygu ein bod yn ffocysu ar yr hyn sydd wir yn bwysig i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae’r Strategaeth yn cynnwys lles meddwl i bawb yn ogystal ag afiechyd meddwl a byddwn yn sicrhau bod y bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol yn cael eu targedu mewn mentrau iechyd cyffredinol.

Mae deddfwriaeth iechyd meddwl ardderchog gennym yng Nghymru; fodd bynnag, mae darpariaeth gwasanaeth ar draws Cymru yn anghyson. Sut y bydd y Strategaeth yn helpu i bontio’r gagendor gweithredu yma fel y bydd modd elwa o’r mwyaf o’r Cynlluniau Gofal a Thriniaeth i ddefnyddwyr?

Mae “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” yn edrych ar sicrhau ymyrraeth gynnar a chydraddoldeb o ran darpariaeth ar draws Cymru, a hynny’n seiliedig ar anghenion yr unigolyn. Mae sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth eilaidd yn meddu ar Gynlluniau Gofal a Thriniaeth nawr yn ddyletswydd statudol ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Dylai defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr fod yn bartneriaid llawn wrth ddatblygu’r rhain ar y cyd lle bynnag bo’n bosibl. Mae cydblethu’r anghenion yma yn y Strategaeth a’r Cynllun Cyflenwi yn helpu i atgyfnerthu hyn. Bydd y dull Llywodraeth gyfan yn sicrhau bod asiantaethau partner yn mynd i’r afael â materion megis anghenion tai.

Sut y bydd y Strategaeth yn dal rheolwyr yn atebol os nad yw gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y bobl sydd  fwyaf agored i niwed yn gwella ac yn cael eu darparu yn ôl yr amserlenni) dros y ddegawd nesaf? 

Nid yw Strategaeth yn medru dal rheolwyr yn atebol – mudiadau sydd yn gwneud hynny. Mae’r Cynllun Cyflenwi yn amlinellu’n glir yr hyn sydd i’w ddisgwyl, gan bwy a phryd. Bydd Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd yn cadw trosolwg ar weithredu a bydd mudiadau statudol yn cael eu dal yn atebol drwy drefniadau rheoli perfformiad gyda Llywodraeth Cymru.

Sut y bydd cyflenwi’r Strategaeth/Cynllun Cyflenwi yn cael ei rheoli ar sail perfformiad yn ganolog, a beth fydd yn digwydd os nad yw rhai ardaloedd yn llwyddo i gyflenwi?

Bydd gofyn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflwyno adroddiadau blynyddol i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd ar y modd y mae’r Strategaeth yn cael ei chyflenwi yn eu hardaloedd hwy. Fel sydd wedi eu hamlinellu uchod, mae rheoli perfformiad mudiadau statudol yn cael ei wneud drwy fecanweithiau cyfredol o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae’r hinsawdd economaidd bresennol sydd ohoni yn anodd iawn. Beth mae’r Strategaeth yn ei ddweud am neilltuo arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl am amddiffyn adnoddau cyfredol? 

Mae “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” yn atgyfnerthu’r ymrwymiad sydd wedi ei wneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i neilltuo arian ar gyfer iechyd meddwl, gan sicrhau bod cyllid iechyd meddwl yn cael ei ddiogelu yn y cyfnod ariannol heriol hwn. Mae’n amlinellu disgwyliadau clir bod gwariant Byrddau Iechyd Lleol ar wasanaethau iechyd meddwl yn gorfod bod yn agored a thryloyw ac yn dynodi adolygiad o effeithiolrwydd y neilltuo. Mae gwariant ar iechyd meddwl yn parhau fel yr elfen unigol fwyaf o’r gyllideb iechyd.

Pa faterion a godwyd gan bobl ifanc yn ystod y cyfnod ymgynghori a sut y bydd y

bydd y Strategaeth yn helpu’r bobl fwyaf hynny mewn cymdeithas yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed ac yn meddu ar afiechyd meddwl difrifol? 

Roedd y digwyddiadau yma yn cynnwys 80 o bobl ifanc sydd â phrofiad o wasanaethau iechyd meddwl a gyda grwpiau ieuenctid. Roedd y themâu cyffredin a godwyd yn cynnwys: y pwysigrwydd o gael perthynas gefnogol gyda gweithwyr proffesiynol sydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth; cael y gefnogaeth ar yr adeg iawn; cael dewis am y gwasanaethau y maent yn derbyn a chyfrinachedd; a’r angen i gael cyfnod pontio da rhwng CAMHS a gwasanaethau i oedolion.

Mae gwasanaethau CAMHS yn faes sydd o flaenoriaeth allweddol yn y Strategaeth ac mae nifer o weithrediadau allweddol wedi eu cynnwys yng Nghynllun Cyflenwi’r Strategaeth sydd yn canolbwyntio  ar gefnogaeth blynyddoedd cynnar, ymyriadau cyflym a bod y cyfnod pontio rhwng gwasanaethau yn cael ei reoli’n fwy effeithiol.

Pa fewnbwn a gafwyd gan ofalwyr? Sut y bydd y Strategaeth yn eu helpu hwy a sicrhau eu bod hwy a’u harbenigedd yn cael eu cydnabod?

Roedd gofalwyr, yn amlwg, wedi eu gwahodd i’r digwyddiadau ymgynghori a chawsom fewnbwn cryf iawn gan y rhai hynny a fynychodd. Sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau oedd  y prif fater a godwyd.  Rydym wedi adrodd hyn yn ôl i gydweithwyr o fewn Gofal Cymdeithasol sydd yn gweithio yn y maes hwn ar ran Llywodraeth Cymru a byddant yn sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu hadolygiad o’r Strategaeth i Ofalwyr. Mae’r Strategaeth yn atgyfnerthu’r mater hwn a bod Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol angen datblygu eu Strategaethau Gwybodaeth i Ofalwyr lleol y mis hwn. 

Sut y bydd “Law yn Llaw at iechyd Meddwl” yn helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl cynradd yng Nghymru?

Wrth wraidd y Strategaeth, mae yna werthfawrogiad a dealltwriaeth o’r angen i bobl sicrhau bod eu hanghenion iechyd meddwl yn cael eu hasesu cyn gynted â phosib. Mae sicrhau bod mwy o ymyriadau ar gael ar lefel gofal cynradd yn mynd i wneud mwy o wasanaethau yn fwy hygyrch a helpu i leihau stigma .Mae Rhan 1 o’r Mesur yn arwain at greu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Cynradd o Hydref y 1af. Bydd y rhain yn mynd ati i wella’n sylweddol y gefnogaeth sydd ar gael i bobl yn agos at eu cartrefi, yn sicrhau bod sgiliau, cymorth a gwybodaeth ar gael mewn gofal cynradd  gwrdd ag anghenion iechyd meddwl pobl. Byddant yn darparu cyngor ac ymyriadau tymor byr yn seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â gweithio yn agos gyda phartneriaid er mwyn cyfeirio pobl at y gwasanaethau mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. 

Ar raddfa o 1 i 10, beth fydd cyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru erbyn 2022 (1 yn wael a 10 yn wych)?

Rhaid i ni wrth gwrs anelu fod ein gwasanaethau yn sgorio 10.  Mae’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn haeddu hyn. 

Mae rhifyn nesaf o gyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru, “Rhifyn Arbennig ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ i’w gyhoeddi yn Nhachwedd. 

 Am fwy o wybodaeth am “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Er mwyn edrych ar fideo o lansiad o “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”, cliciwch yma os gwelwch yn dda.