Llywodraeth yn clustnodi £12 miliwn o gyllid ar gyfer cyfleusterau iechyd meddwl newydd

Mae £12miliwn o gyllid newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi ei glustnodi yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2013-14.

Mae’r cyllid yn cynnwys £10 miliwn ar gyfer Ysbyty Iechyd Meddwl Aciwt i Oedolion Llandochau sydd yn rhan o Ysbyty’r Brifysgol.

Wrth wneud sylw ar y cyllid, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethu Cymdeithasol Lesley Griffiths AC: “Mae ein hagwedd a’n dull tuag at wasanaethau iechyd meddwl wedi ei ganmol gan elusennau iechyd meddwl ac mae defnyddwyr gwasanaeth yn dweud wrthym eu bod yn well nag erioed.

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy yn y gwasanaethau hanfodol yma ac rwyf yn bles i sicrhau £12 miliwn ar gyfer y cyfleusterau newydd.”