Mae’r canlynol yn eitem o Ganolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc Hafal a ariennir gan y Loteri Fawr. Er mwyn cael mynediad at y Ganolfan, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/yp_news.php
Mae BBC Three yn chwilio am bobl ifanc (16 – 25) sydd ag afiechyd meddwl difrifol i gymryd rhan mewn rhaglen ddogfen o’r enw ‘Minds Like Ours’.
Mae’r rhaglen ddogfen yn mynd i gynnwys pobl ifanc yn dangos darnau ffilm “o’u profiadau a’u persbectif hwy ar afiechyd meddwl”.
Bydd cyfranwyr yn cael eu gofyn i gadw dyddiaduron ar ffurf fideo, sgyrsiau gyda ffrindiau a theulu a byddant yn cael eu hannog i ffilmio eu bywydau beunyddiol wrth iddynt fynd i’r afael â’r heriau o droi’n oedolyn.
Mae’r cynhyrchwyr yn gobeithio y bydd y rhaglen ddogfen yn help i gynyddu dealltwriaeth o ystod o faterion iechyd meddwl ac yn herio’r stigma sydd yn bodoli o gwmpas y testun.
Mae cynhyrchwyr yn ychwanegu bod y sawl sydd yn cymryd rhan yn mynd i gael eu cefnogi’n llwyr drwy gydol y broses o wneud y ffilm, a hynny gan dîm cynhyrchu profiadol. Bydd y rhaglen ddogfen hefyd yn meddu ar seicolegydd annibynnol a fydd yn gweithio ar y sioe ac yn diogelu lles y cyfranwyr.
Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Swyddog Gwybodaeth i Bobl Ifanc Hafal, John Gilheaney: johngilheaney@hafal.org