Galw am fwy o fynediad at therapïau siarad

Roedd Aviva wedi cyhoeddi canfyddiadau ei arolwg “Health of the Nation 2012” yn ddiweddar – astudiaeth gynhwysfawr o farn Meddygon Teulu ar iechyd meddwl a chorfforol y DU.

Mae’r adroddiad yn datgelu fod dros chwarter o Feddygon Teulu (28%) yn rhagweld mai iechyd meddwl fydd y mater iechyd cyhoeddus mwyaf eleni. Mae mwy na thri chwarter (79%) yn dweud eu bod wedi sylwi ar gynnydd yn y nifer o gleifion sydd yn adrodd am gyflyrau iechyd meddwl megis straen a gorbryder; mae 61% yn credu fod yna gynnydd wedi bod yn y nifer o blant (5-12 mlwydd oed) sydd â phroblemau iechyd meddwl ac mae 78% yn credu fod yna gynnydd wedi bod yn y nifer o blant sydd yn eu harddegau (13-19 mlwydd oed) sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Canfyddiad allweddol o’r arolwg oedd bod Meddygon Teulu yn pryderi am fynediad at therapïau siarad. Roedd bron i ddau draean (65%) o Feddygon Teulu a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg wedi eu dweud eu bod wedi rhoi gwrthiselyddion mewn sefyllfaoedd lle’r oeddynt yn teimlo y byddai therapi siarad neu ofal cymdeithasol wedi bod yn ymateb mwy priodol: o’r rhain, roedd 80% wedi gwneud hyn yn sgil yr amseroedd aros hir am wasanaethau iechyd meddwl. Roedd 47% yn teimlo fod yna ddiffyg cymorth i Feddygon Teulu yn y maes hwn.

Roedd yr arolwg wedi canfod nifer sylweddol o Feddygon Teulu am weld fod therapïau siarad ar gael yn fwy hawdd i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol – ac mae 28%yn credu mai dyma un o brif flaenoriaethau’r gwasanaeth iechyd,
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Peter Martin, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal:
“Mae’r arolwg hwn yn cadarnhau llawer o’r hyn y mae ein Haelodau yn dweud wrthym, sef nad yw therapïau siarad ar gael yn hawdd iddynt.
“Y pwynt pwysicaf i’w wneud am therapïau siarad yw bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i’r rhai hynny sydd eu hangen fwyaf: pobl ag afiechyd meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.

“Ar lefel ymarferol, dylai’r therapïau siarad fod ar gael ar gyfer ein cleientiaid fel arfer safonol ac fel rhan becyn gofal a thriniaeth cynhwysfawr a holistaidd. Ac wrth gwrs, dylent fod yr un mor hygyrch i bobl ar draws Cymru.”