Mae’r elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal wedi galw am sicrhau bod therapïau seicolegol ar gael yn fwy parod i bobl ag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru.
Mae Hafal yn cael ei reoli gan y bobl y mae’n eu cefnogi: pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr. Mae Aelodau wedi bod yn protestio ers cryn amser nad yw mor hawdd cael mynediad at therapïau seicolegol ag y dylai fod, a hynny er eu bod yn rhan mor bwysig o ofal a thriniaeth peron.
Mewn cynllun pum pwynt, mae Aelodau Hafal yn galw am:
1. Sicrhau bod therapïau seicolegol ar gael ar draws Cymru i bobl sydd yn profi afiechyd seicotig, a hynny fel arfer safonol.
2. Rhoi blaenoriaeth o ran sicrhau bod therapïau seicolegol ar gael yn gyntaf i bobl sydd yn profi afiechyd seicotig ac sydd yn meddu ar yr anghenion mwyaf.
3. Sicrhau bod therapïau seicolegol i bobl sydd ag afiechyd seicotig ar gael ac yn cael eu defnyddio yn helaeth o fewn unedau iechyd meddwl ac ysbytai – ac yn dod yn ddarpariaeth safonol.
4. Dechrau therapïau seicolegol mor fuan â phosib ar gyfer pobl sydd ag afiechydon seicotig – fel sydd yn cael ei ddatgan gan ganllawiau NIACE – a’u dechrau yn y cyfnod aciwt.
5. Sicrhau bod ystod lawn o ymyriadau seicolegol ar gael. Mae pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn debygol o angen ymyriadau seicoleg arbenigol ond maent hefyd yn debygol o feddu ar anghenion gofal cynradd hefyd (gorbryder, iselder ayyb). O ganlyniad, dylid sicrhau bod pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn cael cynnig yr ystod lawn o ymyriadau seicolegol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â Peter Martin, Pennaeth Materion Cyhoeddus Hafal – petermartin@hafal.org