Lansio Ymchwiliad i Ddyfodol Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnal Ymchwiliad sylweddol i mewn i ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y DU, gan edrych 20-30 mlynedd ymlaen i’r dyfodol a gwyntyllu pa fath o ofal a chymorth iechyd meddwl y bydd angen arnom a sut y mae modd i ni eu sicrhau. Mae’r Ymchwiliad yn cael ei gyd-gadeirio gan yr Arglwydd Carlile o Aberriw a’r Athro Dinesh Bhugra. Mae disgwyl i’r ymchwiliad gyhoeddi adroddiad yr hydref hwn.

Mae modd i chi ganfod mwy am yr Ymchwiliad drwy fynd i –
http://www.mentalhealth.org.uk/our-work/policy/future-mental-health-services/

Mae’r Sefydliad hefyd wedi gwneud Cais Swyddogol am Dystiolaeth –
http://www.surveymonkey.com/s/FOMHS_call_for_evidence