Buddugoliaeth i ymgyrchwyr lles wrth i farnwyr ddyfarnu fod y weithdrefn ddadleuol ar fudd-daliadau i’r anabl yn annheg

Mae tri barnwr wedi dyfarnu fod y weithdrefn sydd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan yr Adran Waith a Phensiynau er mwyn penderfynu a yw cannoedd o bobl yn gymwys ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn anfanteisiol pobl ag afiechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Mae’r dyfarniad, a wnaed yn gyhoeddus mewn gwrandawiad yn yr uwch lys heddiw, yn dod wedi i ddau hawliwr anhysbys sydd ag afiechyd meddwl wneud cais am adolygiad barnwrol.

Roed yr elusennau Rethink Mental Illness, Mind a’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi ymyrryd yn yr achos er mwyn darparu tystiolaeth a oedd y seiliedig ar brofiadau eu haelodau a chefnogwyr.

Mae’r achos yn ymwneud â sut y mae tystiolaeth yn cael ei gasglu ar gyfer yr Asesiad Gallu I Weithio, y broses sydd yn cael ei defnyddio er mwyn penni a yw rhywun yn ddigon iach i weithio ai peidio.

O dan y system bresennol, mae disgwyl bod pobl yn darparu tystiolaeth gan weithiwr proffesiynol megis Meddyg Teulu neu weithiwr cymdeithasol eu hunain. Nid oes rheidrwydd i’r Adran waith a Phensiynau i gasglu’r dystiolaeth hon, hyd yn oed ar ran hawlwyr sydd yn agored i niwed, ac eithrio rhai achosion prin.

Mae chwilio am dystiolaeth yn medru bod yn heriol iawn i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu neu awtistiaeth gan fod eu hiechyd neu’r cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd iddynt ddeall neu ddefnyddio prosesau sydd yn ymwneud â chael eu hasesu.

O ganlyniad, mae’r rhai hynny sydd angen cymorth fwyaf yn cael eu hasesu yn gyson heb fod unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r wybodaeth bwysig yma.

Dyfarnwyd nad oedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi cyflawni ei swyddogaethau drwy wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n rhaid i’r Adran wneud mwy i sicrhau fod y math yma o dystiolaeth yn cael ei gasglu. Mae hyn yn golygu fod y weithdrefn gyfredol ar gyfer yr Asesiad Gallu i Weithio yn rhoi rhai grwpiau o dan anfantais sylweddol.

Mae’r tair elusen wedi disgrifio’r dyfarniad fel buddugoliaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth ac sydd yn gorfod mynd drwy system sydd yn eu gosod o dan anfantais.

Dywedodd Paul Jenkins, Prif Weithredwr Rethink Mental Illness:

“Mae’r dyfarniad hwn yn profi unwaith ac am byth fod n broses annheg hon yn greulon ac anghyfreithlon. Mae’r barnwyr wedi cadarnhau’n annibynnol yr hyn y mae ein haelodau wedi bod yn