Golau! Camera! EWCH! ar leoliad yn Abertawe

Roedd yr ymgyrch Golau! Camera! EWCH! ar leoliad yn Abertawe heddiw wrth i’r stiwdio fudol ddarlledu o Erddi’r Castell.

Ymhlith y ffilmiau blog o Abertawe, roedd:
• Y defnyddiwr gwasanaeth Richard Timm wedi siarad â chamera am bwysigrwydd iechyd corfforol o ran gwella o afiechyd meddwl a rhoddodd esiampl wych o arfer da mewn gwasanaethau iechyd meddwl
• Y defnyddiwr gwasanaeth Paul Bevan wedi siarad am gynllun uchelgeisiol i astudio seicoleg a oedd wedi cynnwys yn ei Gynllun Gofal a Thriniaeth
• Roedd Arweinydd Cyngor Abertawe David Phillips wedi siarad â defnyddwyr gwasanaeth yn y stiwdio fudol am ei brofiad o iselder a’r hyn y mae’r Cyngor yn gwneud er mwyn cefnogi pobl ag afiechyd meddwl.

Er mwyn gwylio’r ffilmiau blog, ewch i dudalen Facebook Hafal

Mae’r ymgyrch Golau! Camera! EWCH! ymgyrch yn galw ar wasanaethau ar draws Cymru i ddarparu’r Mesur Iechyd Meddwl newydd a’r Strategaeth. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wedi llwyddo i ymgyrchu o blaid cyfraith a pholisi newydd. Nawr, mae’n amser i weithredu’r geiriau hynny; dyma’r rheswm dros Golau! Camera! EWCH!

Mae’r ymgyrch Golau! Camera! EWCH! yn cael ei chefnogi gan yr elusennau iechyd meddwl Bipolar UK, Hafal a’r Mental Health Foundation. Bydd ein stiwdio fudol ar i’w ganfod mewn 22 o ddigwyddiadau sirol lleol sydd i’w cynnal drwy’r haf. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio’n swyddogol gan y Gweinidog Mark Drakeford yn y Cynulliad Cenedlaethol wythnos nesaf cyn dod i ben gyda digwyddiad carped coch yn y Senedd ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym mis Hydref.

Er mwyn canfod mwy am yr ymgyrch, cliciwch yma os gwelwch yn dda.