Pum ardal yng Nghymru ymhlith y rhai hynny sydd wedi eu taro gwaethaf gan y newidiadau mewn budd-daliadau

Mae gohebydd economeg BBC Cymru, Sarah Dickins, wedi dweud fod Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili ymhlith y 25 ardal yn y DU sydd yn mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau i daliadau lles – darllenwch erthygl Sarah yma.

Mae’r stori yn cyfeirio at ymchwil newydd gan Brifysgol Sheffield Hallam sydd yn manylu am y tro cyntaf effaith diwygiadau lles ar wasanaethau lleol ar draws Prydain gyfan. Mae’r ymchwil yn darparu ffigyrau cynhwysfawr ar gyfer pob un o’r 397 awdurdod lleol ar draws Prydain – cliciwch yma am yr adroddiad llawn. Mae map rhyngweithiol hefyd ar gael ar FT.com – mae modd i chi ddefnyddio hwn er mwyn gweld sut y mae diwygiadau lles yn mynd i effeithio ar ble’r ydych chi’n byw.

Dywedodd yr Athro Steve Fothergill o Ganolfan Ymchwil Economeg a Chymdeithasol Rhanbarthol Sheffield Hallam, a fu’n cynnal yr ymchwil gyda’i gydweithiwr, yr Athro Tina Beatty: “Effaith allweddol y diwygiadau lles fydd ymledu’r gagendor mewn llewyrch rhwng yr economïau lleol gorau a gwaethaf ar draws Prydain.

“Mae ein ffigyrau hefyd yn dangos fod Llywodraeth y glymblaid yn llywodraethu dros ddiwygiadau lles a fydd yn effeithio’n fwyaf ar unigolion a chymunedau sydd y tu hwnt i’w chadarnleoedd gwleidyddol.”