Yn dilyn yr ymatebcyhoeddus a’r alwad am newyddiaduraeth well gan elusennau iechyd meddwl, maepapur-newydd The Sun wedi cyhoeddi cywiriad o’i bennawd ar dudalen flaen ypapur a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, sef “1,200 killed bymental patients”.
Roedd y stori yn honni bod 1,200 o bobl wedi eu lladd gan ‘gleifionwallgof’ yn y ddeng mlynedd diwethaf ond roedd elusennau iechyd meddwl wedidadlau fod yr ystadegyn hwn yn hynod ddadleuol.
Wrth gyhoeddi’r cywiriad, dywedodd y papur-newydd: “Mae The Sunyn cydnabod nad yw’r rhan fwyaf o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn periunrhyw fygythiad i unrhyw un ac yn llawer mwy tebygol o gyflawni hunanladdiadneu niweidio eu hunain yn hytrach na bod yn beryg i eraill.”
Roedd 80,000 0 boblwedi arwyddo deiseb Change.org yr athrawes seicoleg RhiannonLockley a oedd yn gofyn am gywiriad.