Bydd Mark Drakeford AC yn lansio’r fenter “Up 4 It” yn swyddogol, ar ôl iddi dderbyn £754,000 gan y Loteri Fawr, a hynny ar y 14eg o Dachwedd 2013 yn y Ganolfan Ôl-radd, Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach
Bydd prosiect arloesol newydd a fydd yn cefnogi rhai o’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ardal Gwent yn cael ei lansio yn swyddogol yn Ysbyty Ystrad Fawr gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ar y 14eg o Dachwedd.
Bydd “Up 4 It”, sef prosiect sydd yn cael ei chynnal gan yr elusen iechyd meddwl Hafal mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn darparu Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer pobl ifanc sydd yn profi seicosis neu mewn peryg o ddatblygu seicosis. Mae’r prosiect yn anelu i gefnogi 600 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 ar draws ardal Gwent dros y bum mlynedd nesaf ac mae wedi derbyn £754,000 o gyllid gan raglen Dyfodol Disglair y Loteri Fawr.
Bydd y prosiect yn:-
- Yn darparu ymyraethau amserol ac effeithiol sydd yn briodol i ddatblygiad cynnar seicosis er mwyn cefnogi gwellhad ac atal atglafychu
- Cynnig pecyn holistaidd o gefnogaeth o ‘pharmacotherapy’, ymyraethau seicogymdeithasol yn seiliedig ar dystiolaeth gan gynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol, monitro arwyddion cynnar ac ymyrraeth deuluol
- Mynd i’r afael â’r peryg o drawma, iselder a hunanladdiad
- Cynnig cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol gan gynnwys mynediad at hyfforddiant, profiad gwaith a chynlluniau Dug Caeredin.
Dywedodd y defnyddiwr gwasanaeth 23 mlwydd oed Sarah Jones: “Bydd y prosiect yn cael effaith anferth ar fywydau pobl ifanc yn yr ardal sydd ag afiechyd meddwl. Os ydych yn derbyn triniaeth amserol pan eich bod yn profi afiechyd meddwl am y tro cyntaf, yna rydych yn medru derbyn cefnogaeth i aros mewn addysg a chyflogaeth ac atal yr afiechyd rhag niweidio gweddill eich bywyd. Nid oes amheuaeth gennyf na fydd y siawns i lwyddo sydd yn cael ei roi i gleientiaid yn sgil y gwasanaeth newydd hwn yn fwy o lawer nag erioed o’r blaen.”
Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ffaith ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid BILl ar brosiect sydd wrth wraidd ein holl uchelgais ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl: ymgysylltu’n effeithiol ar y cyfle cyntaf posib fel bod modd i bobl ifanc i wella. Rydym hefyd yn falch fod y fenter newydd hon yn golygu y bydd ein staff ar y prosiect yn gweithio’n agos gyda thîm y GIG yn Aneurin Bevan sydd yn arwydd clir o’r bartneriaeth wirioneddol yr ydym wedi datblygu.”