Mae Llywodraeth y DU wedi methu yn ei hymgais i wyrdroi dyfarniadhanesyddol a oedd wedi canfod fod y profion budd-daliadau gallu i weithio ynannheg i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Roedd y Llys Apêl wedi dyfarnu fod dau berson ag afiechyd meddwl yn medruparhau gyda’u her gyfreithiol yn erbyn profion y llywodraeth ar gyfer budd-daliadausalwch.
Dywedodd Paul Farmer, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Rethink:”Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn. Mae’n golygu bod achos cyfreithiol, afyddai o bosib yn medru gorfodi’r Llywodraeth i wneud newidiadau hanfodol i’rsystem fudd-daliadau, wedi goresgyn rhwystr pwysig. Mae’n golygu ein bod cam ynagosach at greu system fudd-daliadau mwy teg.”
Darllenwch mwy am y stori hon yma – http://www.bbc.co.uk/news/uk-25213633
Er mwyndarllen hanes pwerus iawn o sut yr oedd yr Asesiad Gallu i Weithio wedieffeithio ar ofalwr iechyd meddwl a pherson oedrannus, ewch i: http://www.hafal.org/hafal/pdf/Shortstepsjanecasestudyquarkwelsh_Layout%201.pdf