Mae astudiaeth newydd sydd wedi eigyhoeddi yn y British Journal of Psychiatry yn awgrymu nad yw therapi gwybyddol ymddygiadol yn cael llawer o effaith ar symptomau sgitsoffrenia, ahynny er ei fod yn cael ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol drosRagoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Dywedodd Keith Laws, Athroniwroseicoleg gwybyddol ym Mhrifysgol Swydd Hertford a arweiniodd yrastudiaeth: “Yn sgil y dystiolaeth hon, dylid ailystyried polisi’rllywodraeth sydd yn datgan y dylid rhoi’r driniaeth hon i’r holl gleifion yngNghymru a Lloegr sydd â sgitsoffrenia.”
Darllenwch mwy am yr astudiaeth yma: http://www.bbc.co.uk/news/health-25574773
Dywedodd llefarydd ar ran yr eluseniechyd meddwl Gymreig Hafal: “Mae’n bwysig nodi fod yr astudiaeth yncanolbwyntio’n benodol ar therapi gwybyddol ymddygiadol ac nid artherapïau siarad yn gyffredinol.
“Yn hytrach na cheisio deall yrhesymau am iechyd meddwl neu ganiatáu’r cleientiaid i ryddhau eu teimladau,nod therapi gwybyddolymddygiadol yw newid y ffordd y mae cleient yn meddwlam rywbeth penodol er mwyn datrys problem benodol.
“Gan fod hyn efallai yn cynnigmanteision i rai cleifion sydd âsgitsoffrenia, rydym yn credu fod therapïau siarad mwy manwl a hirdymor ynmedru bod yn fwy effeithiol. Rydym yn bryderus fod yna anghydbwysedd yn parhaumewn gwasanaethau iechyd meddwl na sydd yn rhoi pwysau digonol i therapïauseicolegol: byddai nifer o gleifion sydd â sgitsoffrenia yn elwa o gwnsela aseicotherapi manwl gan y byddai hyn yn ‘tyllu’n ddwfn’ ac yn hwylusohunan-ddealltwriaeth.”