Mae Hafal wedi paratoi nodyn briffio polisi i AelodauCynulliad ei ystyried wrth iddynt ddadlau y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol aLlesiant (Cymru) yr wythnos hon. Mae’r nodyn briffio yn amlygu nifer o welliannausydd angen eu gwneud i’r Bil a gyflwynwyd gan Gwenda Thomas, y DirprwyWeinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, fis Ionawr diwethaf.
Mae’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru),sydd i’w ystyried mewn manylder gan Aelodau Cynulliad yfory cyn dod i rymym 2016, yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i gefnogi’r broses o drawsnewidgofal a chymorth yng Nghymru. Mae’n ceisio hwyluso gweithrediad polisïaugwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a chyfuno ac egluro cyfraith gofalcymdeithasol yng Nghymru o fewn fframwaith cyfreithiol Cymreig. Mae’r Bil yngosod tipyn mwy o bwyslais ar geisio adnabod ynghynt y rhai hynny sydd angencymorth a gofal, hyrwyddo lles a thargedu cymorth sydd wedi ei anelu atleihau’r galw am ofal hirdymor.
Er bod Aelodau Hafal yn croesawu prif egwyddorion acamcanion y Bil sydd yn anelu i wella darpariaeth a mynediad at wasanaethaucymdeithasol ar draws Cymru, maent yn credu bod angen cryfhau’r ddeddfwriaethyn sylweddol – yn enwedig o safbwynt gofalwyr gan fod angen ystyried euhanghenion yn fwy gofalus.
Dywedodd Pennaeth Materion Cyhoeddus Hafal PeterMartin: “Rydym yn fodlon iawn gyda llawer iawn o agweddau’r Bil hwn ondmae dal gwaith i’w wneud cyn ei fod yn diwallu holl anghenion ein defnyddwyrgwasanaethau ac eraill sydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethaucymdeithasol yng Nghymru. Mae ein nodyn briffio polisi yn cymeradwyo barnGofalwyr Cymru a Chynghrair y Gofalwyr. Rydym am weld y darpariaethau ar gyfergofalwyr sydd yn y Mesur Gofalwyr yn cael eu trosglwyddo i’r Bil newydd.
“Rydym hefyd am i’r Bil yma i adeiladu ar yr hyn syddwedi ei gyflawni drwy’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) a rhoi mwy o ddewis arheolaeth i’r rhai hynny sydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofalcymdeithasol.”
Er mwyn darllen y nodyn briffio llawn, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Er mwyn darllen mwy am y Bil, cliciwchyma os gwelwch yn dda.