Rhowch mwy o gymorth i bobl ag afiechyd meddwl fel bod modd iddynt aros yn eu swyddi

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi adroddiad newydd sydd ynhonni bod materion iechyd meddwl yn costio £70 biliwn bob blwyddyn i’r DU,tua  4.5% o’r GDP, a hynny mewncynhyrchiant sydd wedi ei golli yn y gweithle, taliadau budd-dal a gwariant arofal iechyd. Mae angen i gyflogwyr a’r system iechyd i fabwysiadu polisïau acarferion gwell er mwyn helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl i fynd yn ôli’r gwaith, yn ôl adroddiad gan yr OECD.

Mae Mental Health and Work: The United Kingdom yn dweud bod tua un miliwn o bobl sydd yn hawlio’rLwfans Cyflogaeth a Chymorth, a miliwn arall sydd ar  y Lwfans Ceisio Gwaith a budd-daliadau oedrangweithio eraill, yn meddu ar anhwylder meddwl megis gorbryder ac iselder ac maehyn yn effeithio ar eu siawns o ganfod gwaith. 

Mae’radroddiad yn argymell mai ymateb yn gynnar yw’r ffordd orau i atal problemauiechyd meddwl rhag arwain at ddibyniaeth ar fudd-daliadau, a hynny pan fo pobl dalyn y gwaith a phan eu bod newydd ddechrau cyfnod o salwch. Mae’r adroddiad yncanfod fod mwy  na 370,000 o Brydeinwyryn dechrau derbyn budd-dal anabledd bob blwyddyn (1% o’r boblogaeth oedrangweithio), sef y gyfradd uchaf yn y  byddatblygedig a dwywaith cyfartaledd yr OECD. Y prif reswm dros hawlio budd-dalyw afiechyd meddwl sydd nawr yn gyfrifol am 40% o’r ceisiadau newydd. Os oesyna doriadau mewn budd-daliadau i’w gwneud, dylid gwneud mwy o ymdrech i fyndi’r afael â’r rhwystrau sydd ynghlwm wrth ganfod a chadw gafael ar waith, dywedyr adroddiad. 

Mae’radroddiad hefyd yn canfod fod y Rhaglen Waith yn cael trafferthion gosod poblsydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’rLwfans Ceiswyr Gwaith  yn ôl fel rhan o’rgweithlu. Mae pobl ag afiechyd meddwl dal yn ddioddef o gymharu â phobl syddheb y fath afiechyd: mae’r gyfradd ddiweithdra yn fwy na dwbl y gyfraddgyffredinol ac mae’r risg o ddisgyn yn is na’r trothwy tlodi yn fwy na dwbl yrisg cyffredinol. Yn wir, mae’r risg o dlodi ymhlith pobl sydd â phroblemauiechyd meddwl yn uwch na deg gwlad yr OECD gan gynnwys saith gwlad Ewropeaiddarall, Awstralia a’r UDA.

Casgliad yradroddiad yw bod y mwyafrif o bobl sydd yn hawlio budd-daliadau ac sydd ynmeddu ar broblemau iechyd meddwl angen cyfuniad o ymyriadau iechyd achyflogaeth er mwyn gwella’r siawns sydd ganddynt o ganfod swydd addas. Mae’r sector iechyd wedi cynyddu gwasanaethau fel bodmynediad at driniaethau iechyd meddwl yn llawer iawn gwell na phum mlynedd ynôl ond mae rhestrau aros dal yn rhy hir mewn rhannau o’r wlad. Mae newidiadaupositif hefyd yn digwydd er mwyn rhoi gwybod i ymarferwyr cyffredinol amanhwylderau iechyd meddwl a materion dychwelyd i’r gwaith ond mae angen camaumwy systematig er mwyn delio gyda materion yn y gweithlu, a hynny drwygwricwlwm hyfforddi diwygiedig.

 
  Mae’r OECDyn argymell bod awdurdodau’r DU yn:

  • Sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd a Gwaith newydd, a oedd i ddechrau ym 2014, yn cael ei weithredu’n gyflym ac ym mhob man gyda ffocws cryf ar iechyd meddwl a’r rhai hynny sydd dal mewn gwaith a sicrhau bod cyflogwyr yn chwarae mwy o rôl.  
  • Cynyddu’r sylw sydd yn cael ei roi i iechyd meddwl a’i effaith ar  gyflogadwyedd a chapasiti gwaith ym mhob un rhan o’r system les.
  • Cynyddu adnoddau ac  ail-edrych ar gymhellion ariannol i ddarparwyr gwasanaeth cyflogaeth er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i gwsmeriaid sydd â phroblemau iechyd meddwl.
  • Adeiladu ar yr integreiddio diweddar rhwng gwasanaethau iechyd a chyflogaeth er mwyn sicrhau bod ymyriadau i’r rhai hynny sydd â materion iechyd meddwl ar gael yn eang.
  • Ymestyn argaeledd therapïau seicolegol i’r rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl cyffredin. 

Darllenwch mwy yma-  http://www.oecd.org/els/emp/mentalhealthandwork-unitedkingdom.htm