Maeadroddiad sydd wedi ei gyhoeddi’r wythnos hon gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac sydd wedi bod yn adolygu’r marwolaethaudrwy hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru, wedi galw am wneudmwy er mwyn sicrhau bod canllawiau NICE yn cael eu gweithredu o ran rheolihunan-niweidio.
Mae argymhellionallweddol eraill yr adroddiad yn cynnwys:
· datblygucofrestr amddiffyn plant Cymru gyfan lle y byddai modd i’r holl asiantaethauperthnasol ei defnyddio
· cyfyngumynediad at alcohol ymhlith pobl ifanc
· sicrhaubod unrhyw raglenni ac ymyriadau ynghylch atal hunanladdiad yn seiliedig ar ydystiolaeth ddiweddaraf
· acadolygu cynnydd sydd yn cael ei wneud ar atalhunanladdiadau, a hynny bob tair blynedd.
Er ynrhywbeth prin, mae’r adroddiad yn amlygu bod hunanladdiad yn un o brif achosionmarwolaethau ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, ac yn gyfrifol am tua un o bobpedwar marwolaeth allanol ymhlith plant rhwng 12 a 17.
Mae’radroddiad wedi ei lunio gan y ChildDeath Review Programme – rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru – ac wedi adolygu 24hunanladdiad tebygol ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru dros gyfnod o chweblynedd.
DywedoddDr Ann John, ymgynghorydd mewn iechyd cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymruac athro cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd clinigol yr adolygiad:”Pa bryd bynnag y mae rhywun yn cyflawni hunanladdiad, mae’n drasiedi acyn achosi trallod i lawer o bobl – teulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynol a’rgymuned ehangach.
“Mae’radolygiad hwn yn ddarn allweddol o waith i’n helpu ni i ddeall yr hollffactorau sydd yn cyfrannu tuag at y marwolaethau yma, canfod cyfleoedd argyfer ymyrryd a gwneud argymhellion er mwyn lleihau’r risg o hunanladdiadymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.
“Nid ywhunan-laddiad yn anochel a dylem oll chwarae rhan er mwyn ceisio atal y fathfarwolaethau yn y dyfodol.”
Dywedoddy Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: “Mae marwolaeth plentyn, beth bynnag yw’ramgylchiadau, yn ddigwyddiad hynod drasig ac yn un sydd yn effeithio arffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach.
“MaeLlywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad y rhaglen adolygu marwolaethau plantyng Nghymru ac rydym yn croesawu cyhoeddiad yr adolygiad thematig hwn heddiw ofarwolaethau plant a phobl ifanc yn sgil hunan-laddiad tebygol.
“Mae hwn ynfaes ymchwil anodd iawn ond mae’n hanfodol ein bod yn ceisio deall achosionhunan-laddiad ymhlith plant er mwyn canfod cyfleoedd i ymyrryd a cheisiolleihau’r risg.”
Cliciwchyma er mwyn lawrlwytho’r adroddiad.