Cynhaliwyd dadl ddoe (dydd Mercher 2ail Ebrill) yn y Cyfarfod Llawn yn yCynulliad Cenedlaethol, a hynny am Wasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a’rGlasoed (CAMHS). Yn ystod y ddadl, cytunwyd yn unfrydol ar welliant i’r cynnigarfaethedig a oedd yn datgan fod y Cynulliad Cenedlaethol yn:
Nodiymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at neilltuo gwariant ar wasanaethau iechydmeddwl ac mae’n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol igyhoeddi gwybodaeth sydd yn dangos ei fod yn monitro ac yn gweithredu’rymrwymiad hwn a sut y mae’n effeithio ar wasanaethau CAMHS.
Roedd Hafal wedibriffio’r holl ACau cyn y ddadl ac wedi mynegi’r safbwynt canlynol o ranneilltuo cyllid:
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo gwariant iechydmeddwl ar draws yr holl grwpiau oedran ers 2008 gyda’r nod o amddiffyn gwariant iechyd meddwl a hwyluso’r broses ofuddsoddi mewn gwasanaethau. Mae hyn wedi ei groesawu a’i gefnogi gan y boblsydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a gofalwyr, ac mae wedi danfonneges gref iawn i’r Byrddau Iechyd y dylent amddiffyn y gwasanaethau gwerthfawr yma ar gyfer grŵp o bobl sydd ynhynod agored i niwed. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod angen bod yn fwy agoreda bod yna ddiffyg tryloywder o rancofnodi sut ac ym mhle y mae’r arian yn cael ei wario.
Dywed Prif Weithredwr Hafal Bill Walden-Jones: “Rydym yn gwybod fod yGweinidog wedi ymrwymo’n bersonol i neilltuo ac rydym yn disgwyl ymlaen atddarllen ei adroddiad ar effaith benodol hyn ar CAMHS. Mae neilltuo cyllid yn ffordd bwysig o amddiffyn gwasanaethauiechyd meddwl am ei fod yn mynd cryn ffordd tuag at ddelio â’r broblem bodiechyd meddwl yn cael ei ystyried fel gwasanaeth Sinderela y GIG.
“Ond mae angen tipyn mwy o dryloywder arnom o ran neilltuo arian felbod cleifion a’u gofalwyr yn medru cadarnhau fod y cyllid ar gyfer gwasanaethauiechyd meddwl yn cael ei amddiffyn fel y bwriadwyd.”
Am fanylion am y ddadl a gafwyd yn y cyfarfod llawn gan gynnwys ycynnig y cytunwyd arno, ewch i: http://www.senedd.assemblywales.org/ieListDocuments.aspx?CId=153&MId=2305&Ver=4