Maeein hymgyrch Caffael ar y Corfforol! ar fin cael ei lansio! Fel pobl sydd ag afiechyd meddwl a’ugofalwyr yng Nghymru, rydym yn bryderus bod ein hiechyd corfforol yn cael eiesgeuluso. Mae ein hymgyrch Caffael ar y Corfforol!yn gosod her – i ni ein hunain ac i’ndarparwyr gwasanaeth – i wella ein hiechyd corfforol mewn modd radical.
Mae Caffael ar y Corfforol!yn ymgyrch sydd yn cael ei harwain ganddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a’i chefnogi gan Hafal, Bipolar UK, y Sefydliad Iechyd Meddwl a Diverse Cymru. Bydd yrymgyrch yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Iau nesa (Mai’r 8fed) gan yGweinidog Iechyd Mark Drakeford – a chofiwch y bydd yna ddigwyddiadau Caffael ar y Corfforol!yn cael eu cynnal drwy gydol yr haf(gydag un ym mhob sir).
Mae gwefan ymgyrchu Caffael ar y Corfforol! 2014 nawr yn fyw. Mae’r wefan yn rhoi’r holl wybodaethsydd angen arnoch er mwyn dysgu am yr ymgyrch gan gynnwys ystod o ddolenni syddyn sôn am:
● cael gafael a pharatoi bwyd iach, safon uchel sydd o werth da
● canfod ffyrdd i ddod yn fwy gweithgar
● derbyn y cymorth cywir gan weithwyr iechyd proffesiynol er mwynparhau’n iach.
Yn ogystal, mae yna dudalen sydd yn nodi’r hyn y gall gwleidyddion,gwneuthurwyr polisi a gweithwyr iechyd proffesiynol ei wneud er mwyn eincefnogi.
CLICIWCH YMA ER MWYN YMWELD ÂGWEFAN CAFFAELAR Y CORFFOROL!:lgp.hafal.org