Heddiw,cynhaliwyd y cyntaf o’r 22 digwyddiad sirol o Caffaelar y Corfforol! yn y ‘Recreation Centre’ ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mynychwydy digwyddiad gan Madeleine Moon AS, Huw Irranca-Davies AS, Janice Gregory AC a’r Cynghorydd Gary Thomas,Dirprwy Faer Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhoddwyd cyfle iwesteion i dderbyn archwiliad iechyd corfforol yn y Ganolfan Iechyd Mudol, igymryd rhan mewn dosbarth Pilates a rhoi cynnig ar y wal ddringo dan do!
Dywedodd ydefnyddiwr gwasanaeth Jason Edwards: “Mae iechyd corfforol yn bwysig iawni mi. Rwyf newydd gwblhau Cwrs Arweinyddiaeth Chwaraeon ac roedd rhaid i middylunio sesiynau hyfforddi fy hun. Roedd y cwrs yn cael ei gynnal gan Neville Southall, cyn Gôl-geidwad Cymru, a dywedodd wrthyf fy mod wedi gwneudyn dda iawn a dylem barhau i hyfforddi. Rwyf nawr yn paratoi sesiwn chwaraeoni’r holl staff a thenantiaid yn Stryd y Parc yr haf hwn fel rhan o’rymgyrch.”
DywedoddArweinydd Practis Hafal Pen-y-bont ar Ogwr Amy Loveday: “Mae digwyddiadheddiw wedi bod yn llawer o hwyl ac wedi rhoi cyfle i ni i roi cynnig arweithgareddau heriol. Ond bydd heriau Caffaelar y Corfforol! yn parhau drwy gydol yr haf a thu hwnt. Mae ein holldenantiaid yn Stryd y Parc yn cymryd rhan mewn sesiynau sgiliau coginio o leiafunwaith yr wythnos er mwyn dysgu sut i goginio prydau bwyd blasus ac iachus.Rydym hefyd yn gwneud cynlluniau i ddringo i Pen Y Fan yr haf hwn.”
Mae Caffael ar y Corfforol!yn gosod her i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac i ddarparwyr gwasanaeth agwneuthurwyr polisi – i wella iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwla’u gofalwyr, a hynny mewn modd radical. Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi ganyr elusennau iechyd meddwl Hafal, Bipolar UK a’r Sefydliad Iechyd Meddwl;bydd Diverse Cymru yn helpu i sicrhau bod yr ymgyrch yn apelio at gymunedaulleiafrifol a difreintiedig. Lansiwyd yr ymgyrch gan y Gweinidog Iechyd MarkDrakeford AC ym Mai a bydd yn cynnwys 22 digwyddiad sirol ar draws holl siroeddCymru.
Am fwy owybodaeth am yr ymgyrch, ewch i www.hafal.org
Am luniau o’r digwyddiad heddiw, ewch i: en-gb.facebook.com/Hafal