Pwrpas yr wythnos yw i annog pobl i siarad ynghylch iechyd meddwl, a chodiymwybyddiaeth o’r salwch, pwnc sydd yn dal i fod yn dabŵ yng Nghymru.
Mi fydd S4C yn darlledu nifer o raglenni sy’n trafod iechyd meddwl dros yrwythnos, gan gynnwys rhaglen ddogfen Cysgod Rhyfel sy’n sôn am brofiadaucyn-filwyr sydd wedi dioddef o straen yn dilyn eu profiadau mewn rhyfeloedd(PTSD). Darlledir rhaglen hefyd sy’n olrhain stori Owain Gwynedd, sy’nadnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh a chyflwynydd chwaraeon yn Iselder: UnCam ar y Tro, wrth iddo drafod iselder ac hunan-laddiad ei dad yn gyhoeddus amy tro cyntaf.
Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:
“Mae’r bartneriaeth yma gyda S4C yn gyfle cyffrous i herio’r stigma sy’ngysylltiedig â salwch meddwl. Maen gyfle i ni ddangos i bobl Cymru fod gwneudpethau bach fel mynd am baned neu ofyn ‘sut wyt ti’n teimlo?’ yn gallu gwneudgwahaniaeth mawr i rywun sy’n delio â phroblem iechyd meddwl – does dim rhaidbod yn arbenigwr i fod yn ffrind. “
Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C
“Dyma gyfres o raglenni sy’n galluogi’r gynulleidfa i rannu profiadau nifero bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, ac i wybod am yr effeithiauar eu teuluoedd hefyd. Yn aml mae hyn yn digwydd tu nôl i ddrysau, ac maerhannu profiadau yn gymorth i rai sy’n dioddef ac yn fodd i ni’r gynulleidfa iddysgu a gwerthfawrogi’r hyn y maent yn ei wynebu hefyd. Fel darlledwr rydym ynfalch fod y rhaglenni hyn yn medru cyfrannu tuag at weithgareddau wythnosiechyd meddwl.”
Gall pawb wneud rhywbeth i fod yn rhan o’r wythnos drwy ddechrau siarad amiechyd meddwl o fewn eu teuluoedd neu yn y gweithle. Mae yna awgrymiadaudefnyddiol ar wefan Amser i Newid Cymru i’ch helpu i ddechrau sgwrs. Mi allwchhefyd ddangos eich cefnogaeth drwy chwilio am Amser i Newid Cymru ar y we ac arFacebook a Twitter i ymuno â’r sgwrs ar-lein.”
Bydd Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda S4C i hyrwyddo’r wythnos ac ynhysbysebu ar y sianel, yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godiymwybyddiaeth, rhannu straeon pobl sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl aci ddechrau sgwrs.
1 o bob 4
Nos Fercher 14 Mai 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Iselder : Un Cam ar y Tro
Nos Iau 15 Mai 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Cysgod Rhyfel
Nos Sul 18 Mai 9:00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Newyddion 9
Nos Lun i Nos Wener 12-16 Mai, S4C
Isdeitlau Saesneg
Lois
Nos Sul, 18 Mai 10:00, S4C
Isdeitlau Saesneg