Roedd bwyta’n iachus ar y fwydlen yn nigwyddiad Caffaelar y Corfforol! heddiw yn Sir Fynwy. Roedd ymwelwyr wedi cael cyfle i roicynnig ar ystod o fwydydd iachus yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn siopWaitrose yn y Fenni; yn y cyfamser, roedd y ganolfan iechyd mudol yn cynnigarchwiliadau iechyd i ymwelwyr ac roedd arbenigwr ffitrwydd wrth law i roicyngor ar sut i ddod yn fwy egnïol.
Dywedodd Cheryl Pope, Gofalwr yn Sir Fynwy:”Mae trafod bwydydd iach yn bwysig ac yn mynd i’m helpu i a’m teului ystyried yr hyn yr ydym yn bwyta yn ddyddiol.
“Nid oes rhaid i fwydydd iachus i fodyn ddrud neu’n ddi-flas. Rwyf wedi cael llawer iawn o hwyl yn bwrw golwgar lyfrau ryseitiau er mwyn canfod ffyrdd newydd o ddefnyddio cynhwysion syddyn rhoi gwerth am arian. Y peth nesaf ar y rhestr yw dod yn fwy egnïol.”
Dywedodd Junaid Iqbal, aelod o’r Panel Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr sy’n arwain yr ymgyrch: “Nidyw’r holl beth yn golygu bod yn rhaid goroesi ar salad. Mae’n ymwneud â bwytaystod o fwydydd er mwyn sicrhau bod ein cyrff yn derbyn yr holl egni a’r maethsydd angen. Mae yna lawer o bregethu pan ddaw hi at ddeiet a bwyta’n iachus acrydym am osgoi hynny. Y neges bwysig yw bod ambell gacen hufen neu frechdanbacwn yn dderbyniol ar yr amod eich bod yn bwyta digon o ffrwyth a llysiau felrhan o ddeiet synhwyrol.”
Dywedodd Peter Martin, Pennaeth Materion Cyhoeddus Hafal: “Maebwyta’n iachus – fel ymarferion cadw’n heini – yn medru bod yn bwysig i bobl agafiechyd meddwl difrifol, a hynny o ganlyniad i sgil-effeithiau’rfeddyginiaeth. Mae rhai meddyginiaethau gwrth-seicotig, er enghraifft, yn medrucyfrannu at ordewdra neu’n golygu bod y claf yn teimlo’n flinedig. Bydd yrymgyrch yn rhoi cyngor allweddol ar sut i fynd i’r afael â hyn.”
Mae Caffael ar y Corfforol! yn gosod her i ddefnyddwyrgwasanaeth a gofalwyr, ac i ddarparwyr gwasanaeth a gwneuthurwyr polisi – i wella iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl a’u gofalwyr, a hynny mewnmodd radical. Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan yr elusennau iechydmeddwl Hafal, Bipolar UK a’r Sefydliad Iechyd Meddwl; bydd Diverse Cymru ynhelpu i sicrhau bod yr ymgyrch yn apelio at gymunedau lleiafrifol adifreintiedig. Lansiwyd yr ymgyrch gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford AC ymMai a bydd yn cynnwys 22 digwyddiad sirol ar draws holl siroedd Cymru.
Mae moddcanfod mwy o wybodaeth a chyngor ar fwyta’n iachus yma:
BWYTA’N IACHUSGwybodaeth a chyngor gan y GIG ar ddeiet iachus
CYNGOR AR FWYTA’N IACHUS Gwybodaeth amddeiet iachus gan yr Asianateth Safonau Bwyd