Roedd Caffael ar y Corfforol! wedi cyrraedd Sir Fflint heddiw mewn digwyddiad yngNghanolfan Gymunedol Parc Aston lle ycafodd ymwelwyr y cyfle i dderbyn copi o lyfr ryseitiau newydd Hafal SirFflint!
Dywedodd JuneDavies, gofalwr o Sir Fflint: “Mae cynifer o lyfrau coginioda gennym fel i ni benderfynu rhannu ein ryseitiau. Felly, cawsom y syniad ogyhoeddi ein llyfr ryseitiau.
“Mae’rllyfr yn cynnwys ryseitiau iachus a maethlon sydd wedi eu profi. Mae wedi einhannog i fwrw golwg ar yr hyn yr ydym yn bwyta, y cynhwysion, sut ydym yn tyfuein bwyd a faint yw pris y bwyd. Rydym yn gobeithio y bydd y llyfr yn ysbrydolidefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac unrhyw un arall sydd am fwyta’n fwy iach iarbrofi gyda’u coginio.”
Dyma rysáitarbennig o lyfr coginio newydd Sir Fflint!
Mae’r llyfrnewydd yn cynnwys rysáit gan yr Aelod Seneddol dros Delyn, David Hanson, ac yncael ei gyhoeddi gan Double Click -cwmni dylunio ac argraffu sydd yn cefnogi ac yn darparu cyfleoeddhyfforddiant/gwaith i bobl yn y gymuned sydd ag afiechyd meddwl.
Roedd ymwelwyryn y digwyddiad Caffael ar y Corfforol! heddiw hefyd wedi cael y cyfle i dderbynarchwiliadau iechyd allweddol yn y Ganolfan Iechyd Mudol; cymryd rhan mewndosbarthiadau amddiffyn eich hun,dosbarthiadau Tai Chi a dosbarthiadau cerdded; a blasu bwyd sy’n dylanwadu aryr hwyl ynghyd â rhoi cynnig ar fwydydd bach iach.
Dywedodd JanetFletcher, Cydlynydd Cymorth Aciwt i Deuluoedd Hafal yn Sir Fflint: “Mae’rymgyrch hon eleni wir wedi ein hysbrydoli; mae yna lawer o weithgareddau ynparhau i gael eu cynnal wedi’r digwyddiad yma heddiw. Rydym yn meithrinpartneriaeth gydag adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Flint er mwyn cynnaltaith gerdded fisol i ofalwyr a fydd yn hyfforddi rhai gofalwyr i arwain y grŵpcerdded. Drwy’r haf, byddwn hefyd yngwahodd siaradwyr gwadd sy’n ymwneud â gofal cynradd i’r cyfarfodyddpartneriaeth gan gynnwys hylenydddeintyddol. Felly, rydym yn sicr yn edrych ar y darlun ehangach!”