Roedd Caffael ar y Corfforol wedi cyrraedd Sir Ddinbych heddiw lle y bu’r ymgyrch ynysbrydoli defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddechrau plot llysiau eu hunain.
“Nid oesdim byd gwell na llysiau yr ydych chi eich hun wedi eu tyfu – maent yn ffres acyn blasu’n well gan mai chi fu’n gyfrifol am eu tyfu,” dywed Lauren.
“Mae ynarywbeth therapiwtig ynghylch tyfu eich llysiau eich hun: mae’n eich swyno acmae modd i chi weld y llysiau yn tyfu ac yn ffynnu. Yn ogystal, rydych hefyd yncadw’n heini yn y fargen, rydych chi’n tyfu bwyd iachus a maethlon ac yn arbedtipyn o arian o ran siopa ar yr un pryd.
“Rydym ynceisio profi fod tyfu llysiau yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud – hyd ynoed os yw hyn yn cynnwys rhai llysiau hanfodol megis tato, moron a thomatos. Yr hyn sy’n wych ywein bod yn gwneud hyn mewn partneriaeth gyda Barnardo’s, ac felly, rydym yn eiddefnyddio fel ffordd i feithrin cysylltiadau yn y gymuned a datblygucyfeillgarwch.”
Cynhaliwyd ydigwyddiad heddiw ym mhrosiect “Bryn y Wal” Hafal; roedd ygweithgareddau a stondinau yn cynnwys:-
· Sesiynau rhoi cynnig ar gadw’n heini
· Sesiynau rhoi cynnig ar golff
· Cwrs rhwystrau pêl-droed
· Cyngor ar fwyta’n iach
· Gwybodaeth am Adfywio Gwledig (Cwmni Cydweithredol Bwyd)
· Cyngor ar roi’r gorau i ysmygu
· Tenis bwrdd
· Archwiliadau iechyd yn y Ganolfan Iechyd Mudol.
DywedoddArweinydd Practis Hafal Sir Ddinbych, Nina: “Yn ogystal â’r plot llysiau newydd, rydym am gael ieir felbod modd i ni gael wyau ffres. Mae’n ymwneud ag annog ein gilydd i gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu ein bwyd einhunain – a sicrhau bod ein deiet yniachus ac yn faethlon. Rydym hefyd yn cynnal Her Pryd Bwyd wythnosol sydd yngalluogi pobl i rannu ryseitiau iachus y maent wedi eu paratoi; rydym hefyd yncynnal grwpiau cerdded ac yn hyrwyddo mynediad at grwpiau cadw’n heini sydd yncael eu trefnu yn y gymuned.”
MaeCaffael ar y Corfforol! yn gosod her i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac iddarparwyr gwasanaeth a gwneuthurwyr polisi – i wella iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl a’u gofalwyr, a hynnymewn modd radical. Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan yr elusennau iechydmeddwl Hafal, Bipolar UK a’r SefydliadIechyd Meddwl; bydd Diverse Cymru yn helpu i sicrhau bod yr ymgyrch yn apelioat gymunedau lleiafrifol a difreintiedig. Lansiwyd yr ymgyrch gan y GweinidogIechyd Mark Drakeford AC ym Mai a bydd yn cynnwys 22 digwyddiad sirol ar drawsholl siroedd Cymru.
Er mwyn canfod mwy am yr ymgyrch, ewch i www.hafal.org
Am fwy o luniau o ddigwyddiad heddiw, ewch I: en-gb.facebook.com/Hafal