Arolwg cenedlaethol cyntaf o’i fath yn amlygu’r effaith ar y bobl hynny sydd yn gofalu am bobl â sgitsoffrenia

Mae tua thrio bob pedwar (72%) o ofalwyr o’r rhai sy’n byw â sgitsoffrenia, yn gyfrifol amy rhan fwyaf [34%] neu’n gyfrifol yn llwyr [38%] am ofalu, gan osod baich emosiynolsylweddol a baich corfforol arnynt, yn ôl canlyniadau rhagarweiniol arolwg rhyngwladolenfawr. Mae’r arowlg  Caring for Carers[C4C], sydd yn cael ei gynnal mewn 25 gwlad, yn cael ei gynnal gan  yr European Federation of Associations ofFamilies of People with Mental Illness [EUFAMI] mewn cydweithrediad â LUCAS, yganolfan ryngddisgyblaethol ar gyfer ymchwil gofal ac ymgynghoriaethPrifysgol  Leuven, Gwlad Belg.

Mae’rcanlyniadau cyntaf yn seiliedig ar ymatebion gan fwy na  400 o ofalwyr yn Awstralia, Canada, Ffrainc,yr Almaen, yr Eidal, Sbaen a’r Deyrnas Unedig. Mae’n daprau tystiolaeth o’rbaich anhygoel, na sydd yn amlwg, ar y bobl sydd yn gofalu am eraill sydd âsgitsoffrenia ac yn amlygu’r cyfraniad y maent yn ei wneud a’r baich anhygoely  mae hyn yn ei gael ar eu bywydau euhunain.

Mae gofalwyryn perfformio eu rôl gofalu ar gyfartaledd am tua 16 mlynedd, ac yn debygol oorfod gwneud hyn am weddill eu bywydau ac maent yn treulio 23 awr yr wythnos yngofalu am anwylyd, a hynny yn sgil natur amhendant a hirdymor sgitsoffrenia. Mae’r swm yma o ofal yn gyfystyr âswydd rhan amser.

Yn yr UndebEwropeaidd, mae tua 10 miliwn o ofalwyr teuluol yn gofalu ac yn cefnogi’nddyddiol eu plentyn neu  frawd/chwaersydd ag afiechyd meddwl difrifol. Mae hwn yn gyfraniad enfawr a gwerthfawr, nidyn unig i unigolion ond i gymdeithas gyfan a’r system gofal iechyd ar drawsEwrop sydd o dan straen ariannol. “Mae’r gweithlu cudd o ofalwyr teuluol yn achubiaethi gymdeithas ac mae’n rhaid i ni gymryd camau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yncael eu cydnabod am eu cyfraniadau, bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bodyn cael eu cefnogi fel bod modd iddynt barhau i ofalu yn effeithio am euhanwyliaid, a hynny heb roi eu hiechyd corfforol a’u lles mewn peryg,”dywedodd  Kevin Jones, YsgrifennyddCyffredinol, EUFAMI.

Er bod tuathraean o ofalwyr yn nodi profiadau positif o ran darparu gofal, mae’r arolwgyn awgrymu bod 4 o bob 10 gofalwr yn brwydro teimladau o fethu ag ymdopi gyda‘gorbryder parhaus’ o ofalu gyda thraean yn teimlo’n isel eu hysbryd. Mae  mwy na 1 o bob 10 gofalwr yn bryderus eu bodwedi eu hynysu a bod eu rhwydweithiau cymdeithasu o dan straen yn sgil eu rôlgofalu.

Oedran ygofalwyr a gymerod ran yn yr arolwg ar gyfartaledd oedd 61 mlwydd oed gyda’rrhan fwyaf [84%] yn gofalu am fab neu ferch. Mae llawer yn mynegi pryderonsylweddol am yr hyn a fydd yn digwydd i’w plentyn unwaith eu bod yn methu âgofalu amdanynt neu os nad ydynt ar hyd lle.

Gyda’rpwysau parhaus yma, mae tua thraean o ofalwyr bron â chyrraedd pen eu tennyn acyn teimlo na allant barhau gyda phethau fel y maent ar hyn o bryd. Mae’rcanfyddiadau yn amlygu angen am ymateb gan Lywodraethau a chymdeithas er mwyncydnabod rôl gofalwyr, eu cyfraniad a’r angen i ddarparu cymorth a gobaith argyfer y dyfodol.

Maeprofiadau gofalu positif yn cael eu maeddu gan y ffaith fod yna gryn anfodlonrwyddgyda’r lefel, neu’r diffyg, cymorth gan weithwyr gofal proffesiynol. Dywedoddnaw deg dau cant o ofalwyr a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn dymuno mwy ogymorth ar draws sawl elfen wahanol. 

Mae’r arolwgyn amlygu dymuniad gofalwyr i chwarae mwy o ran mewn sgyrsiau am driniaeth ac ifod yn fwy parod i ddylanwadu penderfyniadau am ofalu. 

 “Mae yna ddiffyg cymorth ac anfodlonrwydd yncael ei fynegi gan ofalwyr teulu. Mae tri deg wyth y cant yn credu nad ydynt yncael eu cymryd o ddifrif gan staff meddygol/gofal ac mae  44% yn teimlo nad ydynt yn fodlon gyda’u gallui ddylanwadu penderfyniadau pwysig mewn triniaeth a chynllunio gofal,”dywedodd  Kevin Jones, YsgrifennyddCyffredinol, EUFAMI. “Mae gofalwyr iechyd proffesiynol angen cydnabod bodgofalwyr teulu yn medru chwarae rôl gryfach, eu hintegreiddio mewnpenderfyniadau triniaeth ac i weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad gwelli’r claf. Mae EUFAMI wedi bod yn galw am hyn am flynyddoedd.”

“Ynychwanegol at hyn, roedd sawl gofalwr yn dioddef baich ariannol yn sgil ydyletswyddau gofalu,” dywedodd yr Athro Dr. Chantal Van Audenhove, cyfarwyddwr LUCAS. “Maent yn rhan o sefyllfasy’n cael ei disgrifio fel brechdan: mae yna wrthdaro rhwng eu goblygiadau ateu gwaith a’u goblygiadau at eu teulu. Pan nad yw cyflogwyr yn deall rhyw laweram y sefyllfa, mae rhai pobl hyd yn oed yn colli eu swyddi sydd wedyn yn arwainat golli talent o fewn cymdeithas. Dylai mwy o hyblygrwydd gwaith fod ar yragenda.”

Maesgitsoffrenia yn afiechyd meddwl sy’n effeithio ar fywydau’r bobl hynny sydd ynbyw â’r afiechyd a’r rhai hynny sydd yn gofalu amdanynt ac mae’n effeithio aroddeutu 24 miliwn o bobl ar draws y byd. Mae’n effeithio ar bobl rhwng 15 a 35gan amlaf ac yn cael ei restru ymhlith y 10 prif achos pan ddaw hi atflynyddoedd sydd yn cael eu colli yn sgil anabledd. Aelodau teulu sy’n debygolo fod yn ofalwyr cynradd pobl sydd yn byw gyda sgitsoffrenia ac maent yn medrutreulio ar gyfartaledd tua 6 i 9 awr y dydd yn gofalu, ac mae hyn yn medru caeleffaith sylweddol arnynt sydd yn medru peryglu eu lles hirdymor. Mae sawlanhwylder meddwl fel sgitsoffrenia yn medru costio  €93.9 biliwn y flwyddyn yn Ewrop yn unig ganei wneud yn un o’r afiechydon drutaf i’w drin.

Mae’rarolwg, sydd wedi ei gefnogi gan grant addysgol gan y brif gynghrair  CNS, Lundbeck and Otsuka, wedi ei ddatblygugan EUFAMI mewn cydweithrediad â Phrifysgol Leuven yn unol â methodoleg gadarnac wedi ei ddadansoddi gan y ganolfan ymchwil rhyngddisgyblaethol  LUCAS, a arweiniwyd gan yr Athro Dr. ChantalVan Audenhove, Cyfarwyddwr LUCAS. Bydd yr arolwg, unwaith y mae wedi eigwblhau, yn casglu barn pobl o 25 gwlad, y rhan fwyaf ohonynt yn Ewrop, a byddy canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ym 2015.

Mae modd ichi ddilyn y sgwrs o gwmpas yr Arolwg C4C ar dudalen Facebook EUFAMI https://www.facebook.com/EUFAMI1 ac ar Twitter drwy ddefnyddio’r hashnod #LivingWithSchizophrenia.