Roedd Caffael ar yCorfforol! – sef ymgyrch genedlaethol 2014 a arweiniwyd gan ddefnyddwyrgwasanaeth iechyd meddwl a gofalwyr – wedi cyrraedd uchafbwynt heddiw mewndigwyddiad yn Sain Ffagan ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Roedd Mark DrakefordAC a Kevin Brennan AS wedi mynychu’r digwyddiad yn ogystal â defnyddwyrgwasanaeth a gofalwyr o Gymru benbaladr ac roedd yn cynnwys lansiad:-
· Canllaw Caffael ar y Corfforol! newydd i wasanaethau iechyd meddwlar sut i hyrwyddo iechyd corfforol, a hynny yn seiliedig ar brofiad cannoedd oddefnyddwyr gwasanaeth ar draws Cymru
· Gwefan Caffael ar yCorfforol! newydd i wasanaethau iechydmeddwl sydd yn darparu offer a gwybodaeth ar hyrwyddo iechyd corfforol
· Adroddiad yr Ymgyrch sydd yn rhoi trosolwg o’rhyn sydd wedi ei gyflawni gan yr ymgyrch
Roedd y sawl a fu’n ymweld â’r digwyddiad heddiw wedi cael y cyfle i wylioarddangosfeydd byw o sut i baratoi prydau bwyd sylweddol ac iachus, hynny’nweddol rhad; derbyn archwiliadau iechyd corfforol gan weithiwr iechydproffesiynol yn y Ganolfan Iechyd Mudol; rhoi cynnig ar droelli, Choi Kwang Do,dawnsio salsa a bwrdd tenis, a chwrdd â defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwlgofalwyr a gweithwyr proffesiynol o Gymru benbaladr.
Arweiniwyd ymgyrch ‘Caffael ar y Corfforol!’ 2014gan bobl ag afiechyd meddwl difrifol a gofalwyr ac fe’i cefnogwyd gan Hafal, Bipolar UK a’r Sefydliad Iechyd Meddwl; roedd Diverse Cymru wedi sicrhau bod yr ymgyrch yn apelio atgymunedau lleiafrifol a difreintiedig. Yn ystod Haf 2014, roedd yr ymgyrch wediymgysylltu gyda miloedd o bobl ar draws y 22 sir yng Nghymru ym 2014 gangynnwys:
- Mwy na 3000 o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr sydd yn defnyddio gwasanaethau Hafal a Bipolar UK yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Caffael ar y Corfforol! lleol a gynhaliwyd yn ein prosiectau ar draws Cymru
- Miloedd o bobl a fynychodd y 22 digwyddiad lleol ym mhob un sir yng Nghymru, lansiad yr ymgyrch gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford yn y Cynulliad a’r digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru
- Degau o filoedd o bobl a fu’n dilyn ac yn chwarae rhan yn yr ymgyrch drwy gyfrwng sianeli cyfryngau cymdeithasol Hafal, y Sefydliad Iechyd Meddwl, Bipolar UK a Diverse Cymru
- 65,000 o ymwelwyr unigryw a fu’n ymweld â gwefannau Hafal – gan gynnwys y wefan benodol ar gyfer ‘Caffael ar y Corfforol!’ – gan weld y sylw y bu’r ymgyrch yn ei gael yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol.
Yn sgil hyn, mae defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar draws Cymru mewnsefyllfa dipyn yn well erbyn hyn i wella eu hiechyd corfforol – ac maegwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl) yn fwy cymwys i gefnogidefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gyflawni eu hamcanion iechyd corfforol.
Roedd pobl wedi rhoi’r sgôr canlynol (allan o 10) i’r ymgyrch:
eu cefnogi iddod yn fwy egnïol – sgôr argyfartaledd 9.4
eu cefnogi iwella eich deiet – sgôr argyfartaledd 8.9
eu cefnogi igael y cymorth cywir gan eich Meddyg Teulu ac eraill er mwyn parhau’n gorfforoliach- sgôr ar gyfartaledd 8.5
Dywedodd Junaid Iqbal, aelodo Banel Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr: “Yr hyn yr ydym wedi bod yngwneud, ac yn mynd i barhau i wneud dros y blynyddoedd nesaf, yw ochri gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u hymrymuso iymgysylltu’n llawn gyda’r gwasanaethau hynny. Rydym yn hyrwyddo cyd-gynhyrchu -lle y mae gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth, ahynny mewn perthynas gydradd er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib.”
Am fwy oluniau o ddigwyddiad heddiw, ewch i: en-gb.facebook.com/Hafal