Bydd pobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad a phoblsy’n hunan-niweidio yn cael cynnig mwy o gymorth fel rhan o gynllun newydd pummlynedd i leihau achosion o hunanladdiadau a hunan-niweidio yng Nghymru.
Mae Beth am Siarad â Fi 2, a lansiwyd heddiw gan y GweinidogIechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford, yn nodi’r grwpiau hynny obobl sydd mewn perygl arbennig o gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio, acmae’n amlinellu’r gofal y dylent ei gael, wedi’i ddarparu yn y ffordd gywir, yny lle cywir ac ar yr adeg gywir.
Mae hefyd yn amlinellu’r nodau a’r amcanion i atal a lleihaunifer yr achosion o hunanladdiadau a hunan-niweidio yng Nghymru, ac mae’nadeiladu ar y mesurau a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Mesur IechydMeddwl (Cymru) 2010, sy’n Fesur arloesol.
Mae’r grwpiau o bobl yr ystyrir bod ganddynt risg uwch ogyflawni hunanladdiad yn cynnwys:
- Dynion canol oed
- Pobl ifanc bregus, yn arbennig y rheini nadydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
- Pobl dros 75 oed
- Pobl yn ycarchar neu yn y ddalfa a’r rheini mewn gofal seiciatrig.
Mae’r camau ar gyfer atal hunanladdiadau ac achosion ohunan-niweidio, a fydd yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru dros y pummlynedd nesaf, yn cynnwys:
- Ymateb mewn modd addas i argyfyngau personol, ymyrraethgynnar a rheoli achosion o hunanladdiadau a hunan-niweidio
- Codi ymwybyddiaeth agwella lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth am hunanladdiadau ac achosion ohunan-niweidio ymhlith y cyhoedd
- Pobl sy’n dod i gysylltiad yn aml â’r rheinisydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio a gweithwyrproffesiynol yng Nghymru
- Darparu gwybodaeth a chymorth i bobl sydd wedi collirhywun neu’n cael eu heffeithio gan achosion o hunanladdiad ahunan-niweidio
- Cefnogi’r cyfryngau i bortreadu achosion o hunanladdiad acymddygiad hunanddinistriol mewn modd cyfrifol
- Lleihau mynediad at ffyrdd ogyflawni hunanladdiad
- Parhau i hyrwyddo a chefnogi systemau dysgu, gwybodaeth amonitro ac ymchwil i wella dealltwriaeth pobl o hunanladdiadau a hunan-niweidioyng Nghymru, ac arwain camau gweithredu.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 yn marw drwyhunanladdiadau, sef tua tair gwaith y nifer sy’n cael eu lladd mewn damweiniaucar. Mae tua 5,500 o bobl bob blwyddyn yn mynd i’r ysbyty oherwydd eu bod ynhunan-niweidio.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Fel arfer, mae pobl yn cyflawni hunanladdiad mewn ymateb igyfres o ffactorau cymhleth; rhai personol a rhai sy’n ymwneud â dylanwadaucymdeithasol a chymunedol ehangach. Mae’n drasiedi i bawb, a gall fod yn destungofid i lawer o bobl – yr unigolyn, y teulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynola’r gymuned ehangach.
“Mae ein strategaeth bum mlynedd newydd wedi’i thargedu’nfwriadol at y grwpiau hynny o bobl sydd mewn perygl arbennig o gyflawnihunanladdiad a hunan-niweidio.
“Mae’n amlinellu beth rydyn ni’n disgwyl i wasanaethau eiwneud i hyrwyddo, cydlynu a chefnogi cynlluniau a rhaglenni i leihau achosion ohunanladdiadau ac atal achosion o hunan-niweidio ar lefel genedlaethol,ranbarthol a lleol.
“Mae atal achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio yn herfawr i ni i gyd, ond ni all un sefydliad nac adran unigol o’r llywodraethdrechu hyn ar eu pennau eu hunain. Dyna pam fod strategaethau cenedlaethol argyfer atal hunanladdiadau yn elfen allweddol wrth leihau nifer yr achosion.Maent yn sefydlu’r fframwaith strategol sydd ei angen ar gyfer ystod oymyriadau gan nifer o sefydliadau a sectorau mewn ffordd cyd-gysylltiedig.
“Bydd llwyddo i weithredu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, yMesur Iechyd Meddwl a Beth am Siarad â Fi 2, yn gwneud cyfraniad pwysig i atalhunanladdiadau a hunan-niweidio yng Nghymru.”
Mae Beth am Siarad â Fi 2 yn adeiladu ar y cynllun cyntaf,Beth am Siarad â Fi?, a lansiwyd yn 2009.
Dywedodd Dr Ann John, athro cysylltiol ym MhrifysgolAbertawe, sy’n cadeirio grŵp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atalhunanladdiadau a hunan-niweidio:
“Fel rhan o’r broses o gynllunio Beth am Siarad â Fi 2, einnod yw targedu dynion canol oed, gan fod ein data’n dangos bod cyfraddauhunanladdiadau yn y grŵp hwn yn uchel o gymharu â grwpiau eraill, yn ôl ymgyrchgenedlaethol y Samariaid.
“Byddwn hefyd yn cefnogi pobl ifanc bregus, yn arbennig yrheini nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth fel yr amlinellwyd ynAdolygiad Marwolaethau Plant o Hunanladdiadau Tebygol y llynedd; pobl dros 75oed; y rheini yn y carchar neu yn y ddalfa a’r rheini mewn lleoliadauseiciatrig.
“Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen i ni annog pobl i gael helpcyn eu bod yn cyrraedd y pwynt o argyfwng a galluogi’r rheini o’u hamgylch iymateb.”