Ap ‘Brain training’ o bosib yn medru gwella’r cof a’r ffordd y mae’r meddwl yn gweithio o ddydd i ddydd i bobl â sgitsoffrenia

Mae gêm ‘brain training’ wedi ei datblygu ar gyfer yr iPad a’i harbrofi ganymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt sydd o bosib yn medru gwella cof y boblhynny sydd â sgitsoffrenia, gan eu helpu yn eu bywydau beunyddiol yn y gwaith athrwy fyw’n annibynnol, yn ôl  ymchwilnewydd.

Hyd yma, nid oes yna unrhyw driniaethau fferyllol trwyddedig i wellagweithredoedd gwybyddol y bobl hynny sydd â sgitsoffrenia. Fodd bynnag, mae mwya mwy o dystiolaeth yn awgrymu bod hyfforddi ac adsefydlu gyda chymorthcyfrifiadur yn medru helpu pobl sydd â sgitsoffrenia i oresgyn rhai o’usymptomau, gyda chanlyniadau gwella o ran sut y maent yn byw eu bywydau o ddyddi ddydd.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod sgitsoffrenia yn costio tua £13.1 biliwn yflwyddyn yn y DU, ac felly, byddai hyd yn oed gwelliannau bychain mewngweithredoedd gwybyddol yn medru helpu cleifion i symud ymlaen i fyw’nannibynnol a gweithio. Byddai wedyn yn lleihau costau uniongyrchol ac anuniongyrcholyn sylweddol, a hynny’n ychwanegol at wella iechyd a lles cleifion. 

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y Philosophical Transactions of theRoyal Society B, roedd tîm o ymchwilwyr a arweiniwyd gan yr Athro BarbaraSahakian o Adran Seiciatreg Prifysgol Caergrawnt wedi disgrifio sut y maentwedi datblygu ac arbrofi Wizard, gêm  aryr iPad sydd yn anelu i wella cof episodig unigolyn.  Cof episodigyw’r math o gof sydd angen pan eich bod angen cofio eich bod wedi parcio eichcar mewn maes parcio aml-lawr ar ôl bod yn siop am oriau neu ble’n union ydychwedi gadael eich allweddi yn y tŷ ar ôl sawl awr. Dyma un elfen o’rgweithredoedd gwybyddol sydd yn cael eu heffeithio mewn pobl sydd âsgitsoffrenia. 

Roedd y gêm Wizard yn ganlyniad i waith ar y cyd dros gyfnod o naw mis rhwng yseicolegwyr, y niwrowyddonwyr, rhywun proffesiynol sy’n datblygu gemau a phoblsydd â sgitsoffrenia. Y bwriad oedd creu gêm a oedd yn hwyl, yn dal sylw, yn ysgogi ac yn hawdd ei deall tra’n gwellacof episodig yr unigolyn ar yr un pryd. Plethwyd y dasg ar gyfer y cof i mewno’r naratif lle y caniatawyd i’r claf ddewis eu au eu hunain a’r enwau;rhoddwyd gwobr am unrhyw gynnydd dryw gyfrwng gweithgareddau ychwanegol er mwynrhoi’r ymdeimlad o gynnydd i’r person a oedd yn chwarae’r gêm, a hynny mewnffordd a oedd yn golygu bod hyn teimlo’n gwbl ar wahân i’r broses hyfforddigwybyddol. 

Roedd yr ymchwilwyr wedi paratoi 22 unigolyn i gymryd rhan, sef pobl a oeddwedi derbyn diagnosis o sgitsoffrenia, ac roeddynt wedi eu rhoi ar hap yn y grŵp hyfforddi gwybyddol neu’n grŵprheolaeth. Roedd yr unigolion yn y grŵp hyfforddi wedi chwarae’r gêm  hyfforddi am gyfanswm o wyth awr dros bedairwythnos; roedd yr unigolion yn y grŵp rheolaeth wedi parhau gyda’u triniaeth fel arfer. Ar ddiwedd y pedair wythnos,roedd yr ymchwilwyr wedi profi cof episodig yr holl unigolion gan ddefnyddio’rCambridge Neuropsychological Test Automated Battery (CANTAB) PAL, yn ogystalâ’u lefelau o fwynhad ac ysgogiad a’u sgôr ar y raddfa Global Assessment ofFunctioning (GAF), sydd yn cael ei ddefnyddio gan feddygon er mwyn mesurcyfraddau gwybyddol oedolion mewn cyd-destun cymdeithasol, galwedigaethol a seicolegol. 

Roedd yr Athro Sahakian a chydweithwyr wedi canfod fod y cleifion a fu’nchwarae’r gêm cof wedi gwneud llawer iawn llai o gamgymeriadau ac angen llai odroeon er mwyn ceisio cofio lleoliad patrymau gwahanol yn yr arbrawf CANTABPAL, a hynny o gymharu â’r  grŵprheolaeth. Yn ychwanegol at hyn, roedd cleifion yn y grŵp hyfforddi gwybyddolwedi gweld cynnydd yn eu sgôr ar y raddfa GAF.

Roedd yr unigolion a fu’n cymryd rhan yn y grŵp hyfforddi gwybyddol wedi dynodieu bod wedi mwynhau’r gêm ac wedi eu hysgogi i barhau i chwarae ar draws wythawr o hyfforddiant gwybyddol. Mewn gwirionedd, roedd yr ymchwilwyr wedi canfodmai’r sawl a ysbrydolwyd fwyaf a oedd wedi perfformio orau tra’n chwarae’r gêm.Mae hyn yn bwysig gan fod diffyg ysgogiad yn agwedd gyffredin arall osgitsoffrenia. 

Dywedodd yr Athro Sahakian: “Rydym angen ffordd o drin symptomau gwybyddolsgitsoffrenia megis  problemau gyda chofepisodig ond cynnydd araf sy’n cael ei wneud tuag at ddatblygu cyffur. Felly,mae’r astudiaeth hon yn bwysig gan ei fod yn dangos fod gêm  ar gyfer y cof yn medru helpu yn y meysyddhynny lle y mae cyffuriau hyd yn oed wedi methu. Gan fod y gêm yn ddiddorol,mae’r cleifion hynny – sydd heb lawer o ysgogiad – yn cael eu hysgogi i barhaugyda’r hyfforddiant.”

Ychwanegodd yr Athro Peter Jones: “Mae’r canlyniadau yma yn addawol ac ynawgrymu bod yna botensial i ddefnyddio’r gemau – nid yn unig i wella cofepisodig person ond hefyd i wella’r modd y maent yn byw o ddydd i ddydd. Byddangen cynnal astudiaethau pellach gyda sampl mwy o bobl er mwyn cadarnhau’rcanfyddiadau ond rydym yn gobeithio y bydd hyn, wrth gael ei ddefnyddio ar ycyd gyda meddyginiaeth a therapïau seicolegol lleol, yn medru helpu pobl sydd âsgitsoffrenia i leihau effaith eu hafiechyd ar eu bywyd bob dydd.”