Ym mis Awst, roedd Sioe Deithiol Gyda’n GilyddNawrwedi cyrraedd Sir Ddinbych,Sir Fflint, Conwy ac Ynys Môn.
· Roedd digwyddiad Sir Ddinbych ar y 7fed o Awst wedi ei gynnal arbromenâd y Rhyl gyda cherddoriaeth fyw a sesiynau cerddorol rhyngweithiol. Am luniau o’r digwyddiad, y caneuon achwaraewyd a dolenni at fywyd cymdeithasol yn Sir Ddinbych, cliciwch yma
· Roeddcanu a salsa ar y fwydlen yn nigwyddiad SirFflint yn yr Wyddgrug ar y 14eg o Awst a oedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, sesiynau rhyngweithiol adosbarth dawnsio. Cliciwch yma am y lluniau, y caneuon achwaraewyd a’r dolenni at fywyd cymdeithasol yn Sir Fflint
· Roedd grŵp cerddorol o Gonwy wedi recordio a pherfformio cân newydd ar gyfer y digwyddiadym Mae Colwyn Bay ar yr 21ain o Awst. Am luniau o’r digwyddiad, y caneuon achwaraewyd a’r dolenni at fywyd cymdeithasol yng Nghonwy, cliciwch yma
· Roedd y digwyddiad heddiw ar YnysMôn yng Nghanolfan Ucheldreyncynnwys yr artistiaid lleol, Sarah Wynn a Dyf Roberts. Cliciwch yma am luniau o’rdigwyddiad, y caneuon a chwaraewyd a dolenni at fywyd cymdeithasol ar Ynys Môn.
Tips allweddol o’r Sioe Deithiol:
Dywedodd Elizabeth o Sir Ddinbych: “Fy nghyngorallweddol i yw peidiwch â cheisio gwneud hyn ar ben eich hun. Weithiau, gallwchdeimlo fel pe bai eich bod wedi eich ynysu, a dyma’r peth gwaethaf sydd ynmedru digwydd i ofalwr sydd eisoes yn gofalu am rywun sydd yn sâl. Mae’n bwysigdysgu sut i ymdopi drwy rannu gyda rywun sydd wir yn deall. Drwy weithiogyda’ch gilydd, mae modd i ni helpu ein gilydd ac rydym yn gwybod nad ydym arben ein hunain
Dywedodd Daveo Sir Fflint: “Rwy’ncredu mai’r ffordd orau i mi ymlacio ac anghofio am broblemau yw drwy chwaraefy ngitâr; mae’n ffordd o ddianc, a hynny’n union fel wyf yn teimlo pan yn myndi gyfarfodydd o’r grŵp celf Hafal ar gyfer gofalwyr. Rydych yn gwybod nad ydychyno ar ben eich hun.”
Dywedodd Davido Gonwy: “Pe bai un neges gennyf ar gyfer rhywun sydd ynwynebu unigrwydd neu sy’n orbryderus, yna cewch i ganfod rhywbeth, unrhyw beth,sydd yn eich diddori a rhowch gynnig arno. Dyna wnes i!”
Dywedodd Carol o Ynys Môn: “Mae bod yn ofalwr ynmedru golygu eich bod wedi’ch ynysu, ac felly, ymunais a chôr yn ddiweddar!Rwy’n mwyhau mynd i’r ymarferion a chwrdd â chymysgu ag eraill. Nid oes rhaid ichi gael llais canu peraidd – dim ondcanu ar bob cyfle posib!”
Dyddiadau ar gyfer y daith ym misMedi:
Gwynedd 4ydd Medi
Pen-y-bont ar Ogwr 11eg Medi
Merthyr Tudful 18fed Medi
Rhondda Cynon Taf 25ain Medi
Cefndir Gyda’n Gilydd Nawr!
Yn cael ei chynnal ganddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a’i chefnogi gan Hafal, Bipolar UK, y Sefydliad Iechyd Meddwl a Diverse Cymru, mae’r sioe deithiol Gyda’n Gilydd Nawr! yn mynd i deithioar draws Cymru gyda gwyliau cerddorol a digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhobun o’r 22 sir. Ar y daith, byddwn ynestyn allan at filoedd o bobl ar draws Cymru sydd wedi eu heffeithio ganafiechyd meddwl – mewn ardaloedd gwledig a threfol – ac yn rhoi’r cyfle iddynti wella eu bywydau cymdeithasol a goresgyn unigrwydd ac arwahanrwydd. DEWCH I GANFODMWY