Bydd ygyllideb iechyd meddwl yn parhau i gael ei hamddiffyn drwy ei chlustnodi yngNghymru, yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd yGweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, heddiw (Dydd Llun17 Awst 2015)
Yn 2008,cyflwynodd Llywodraeth Cymru ar y pryd drefniadau i glustnodi dyraniadaurefeniw iechyd meddwl i fyrddau iechyd gyda’r bwriad o amddiffyn buddsoddiadmewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Yn 2012,atgyfnerthodd strategaeth Llywodraeth Cymru, Law yn law at Iechyd Meddwl,yr ymrwymiad i barhau i glustnodi. Roedd y cynllun cyflawni sy’n sail i’rstrategaeth hefyd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad oeffeithiolrwydd clustnodi ar gyfer iechyd meddwl erbyn diwedd 2015.
Daeth yr Adolygiado’r Trefniadau Clustnodi Ariannol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl yngNghymru gan PricewaterhouseCoopers, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, i’rcasgliad fod diben clustnodi, sef amddiffyn gwariant ar wasanaethau iechydmeddwl, wedi cael ei gyflawni gan fwyaf.
Mae nifer oargymhellion yn yr adroddiad er mwyn gwneud cyswllt gwell rhwng gwariant achanlyniadau. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried yr argymhellion hyn a byddyn gwneud datganiad pellach yn ddiweddarach eleni ar ôl trafod â rhanddeiliaid.
MaeLlywodraeth Cymru wedi clustnodi £587m ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yngNghymru yn 2015-16 – cynnydd ar y £389m yn 2009-10. Yn gynharach eleni,cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyllid newydd o £15mar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru bob blwyddyn.
Dywedodd MarkDrakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Gallafiechyd meddwl gael effaith sylweddol ar ddisgwyliad oes ac mae’n un o’rmaterion allweddol sy’n achosi anghydraddoldeb iechyd.
“Mae un o bobpedwar oedolyn yn dioddef problemau neu afiechyd meddwl ar ryw adeg yn eubywydau, a bydd un o bob chwech ohonom yn dioddef symptomau ar unrhyw adeg. Maegan un o bob 10 plentyn rhwng pump ac 16 oed broblem iechyd meddwl ac mae ganlawer mwy broblemau ymddygiad. Dyna pam mai iechyd meddwl yw un o fy mhrifflaenoriaethau.
“Yng Nghymru,rydym yn gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’rGwasanaeth Iechyd Gwladol; mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos eto ein hymrwymiadi’r rhan hanfodol hon o’r gwasanaeth iechyd.”