Heddiw, roedd Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghori ar ddiwygio’rCod Ymarferi i Gymru sy’n berthnasol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Cyhoeddwyd y Cod Ymarfer i Gymru ar gyfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru 1983 (MHA)ddiwethaf ym 2008. Mae’r Cod drafft newydd yn cymryd i ystyriaeth y newidiadausydd wedi eu gwneud i ddeddfwriaeth berthnasol ers ysgrifennu’r Cod diwethaf;yn enwedig:-
• yr anghenion ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o ran cynllunio gofal a thriniaeth ac ehangudarpariaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol
• y berthynas rhwng y Ddeddf, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r TrefniadauDiogelu rhag Colli Rhyddid.
O fewn y Cod drafft, mae yna fwy o bwyslais ar:-
• sicrhau bod cleifion, a lle’n briodol, eu teuluoedd a gofalwyr yn chwaraerhan ym mhob agwedd o’r asesiadau a’r triniaethau
• deall egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a sut y mae’r rhain yn berthnasol i ofal athriniaeth
· rôl Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
• defnyddio cludiant priodol er mwyn cludo cleifion sy’n destun i’r Ddeddf er mwyn diogelu euhurddas a’u diogelwch – o fewn ffiniau’r hyn sy’n ymarferol
Mae yna ddau fater sydd o ran canllaw arfaethedig yn y Cod drafft na sydd yn y Cod cyfredol.
Yn gyntaf, mae’n ailadrodd bod y Ddeddf yn rhoi cyfyngiado 72 awr ar ddal rhywun o dan adran 136 a dylid ond cynnal asesiadau mewngorsafoedd heddlu o dan amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag, o ran amseriad yrasesiadau a’r gorsaf heddlu a lleoliadau eraill, mae’r Cod yn cynnig:
· y dylid eu cynnal o fewn 3 awr
• ni ddylid dal neb yng ngorsaf yr heddlu am fwy na 12 awr.
Yn ail, mae’n cynnig y dylid cychwyn ar gynllun gofal a thriniaethstatudol, os oes angen, dim hirach na 72 awr ôl i’r person gael ei ddal.
Dywedodd Peter Martin, Uwch Ymgynghorydd Polisi yn yr elusen iechydmeddwl Gymreig Hafal: “Rydym yn croesawu’r adolygiad o’r Cod Ymarfer iGymru, yn enwedig am ei fod yn rhoi cyfle i sicrhau bod y Cod yn adlewyrchu’rnewidiadau i ddeddfwriaeth a strategaethau yng Nghymru.
“Rydym yn croesawu’r ffocws ar gynllunio gofal a thriniaeth a’r rôlsydd i’w chwarae gan gleifion a gofalwyrym mhob agwedd o asesiadau a thriniaethau.
“Fel elusen sy’n cael ei harwain gan gleifion, rydym yn disgwylymlaen at ymateb i ddogfennau’r ymgynghoriad mewn manylder a rhoi llais cryf i ddefnyddwyrgwasanaeth a gofalwyr yn yr ymgynghoriad.”
Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: http://gov.wales/consultations/healthsocialcare/mental-health/?skip=1&lang=cy