Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd gan y Nuffield Trust a’r HealthFoundation yn awgrymu nad yw pobl yn Lloegr sydd ag afiechyd meddwl yn elwadrwy sicrhau bod rhywun yn rheoli eu hiechyd corfforol yn ddigonol, a hynny ereu bod yn adnabyddus i’r GIG am fod anghenion iechyd meddwl ganddynt.
Roedd pobl ag afiechyd meddwl yn Lloegr yn gorfod myndi’r ysbyty bum gwaith yn fwy’r llynedd ogymharu â’r sawl heb afiechyd meddwl; er hynny, nid oedd angen diwallu eu hanghenioniechyd meddwl yn y mwyafrif o’r achosion yma ac roedd modd osgoi llawerohonynt.
Roedd pobl ag afiechyd meddwl yn mynd i’r ysbyty ar frys 4.9 o weithiauyn fwy nag eraill.
Ar ôl gwerthuso mwy na 100 miliwn o gofnodion ysbyty’r flwyddyn, roedd yr ymchwil yn cymharu’rdefnydd a wneir o’r ysbyty gan ddau grŵp o gleifion; pobl sydd wedi bod yn yrysbyty yn y gorffennol yn sgil eu hiechyd meddwl a phobl sydd wedi gorfod myndi’r ysbyty am resymau na sydd ymwneud â’u hafiechyd meddwl. Mae’r dadansoddiadyn edrych ar batrymau achosion brys ac achosion arferol rhwng 2009/10 a2013/14.
Mae’n canfod bod:
- Pobl ag afiechyd meddwl wedi mynd i’r ysbyty ar frys 4.9 o weithiau yn fwy nag eraill ac yn mynd i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys 3.2 o weithiau’n fwy na’r rhai heb afiechyd meddwl ym 2013/14.
- Er yn meddu ar brofiad blaenorol o afiechyd meddwl, dim ond 20% o’r grŵp hyn a oedd wedi gorfod mynd i’r ysbyty ym 2013/14 oedd wedi mynd yno yn sgil anghenion iechyd meddwl.
- Roedd pobl ag afiechyd meddwl 3.6 o weithiau yn fwy tebygol o brofi achosion yr oedd modd eu hatal o gymharu â phobl heb afiechyd meddwl ond hefyd yn fwy tebygol o orfod mynd i’r ysbyty ac aros yno heb gynllunio
- O ran trin rhai afiechyd corfforol cyffredinol, roedd pobl ag afiechyd meddwl yn fwy tebygol o orfod delio gyda hyn ar frys yn hytrach na chynllunio pethau, aros yn yr ysbyty yn hirach neu dros nos. Er enghraifft, o’r bobl ag afiechyd meddwl difrifol a oedd wedi cael llawdriniaeth i gael clun newydd, roedd 40% o bobl wedi gwneud hyn ar frys yn hytrach na chynllunio mynd i’r ysbyty; ymhlith ar gyfer pobl heb afiechyd meddwl difrifol, y gyfran oedd 8%.
Wrth wneud sylw ar y canfyddiadau, dywedodd HollyDorning, Dadansoddwr Ymchwil yn y Nuffield Trust: “Mae’n syfrdanol bod pobl ag afiechyd meddwl yn defnyddio gofal bryscynifer o weithiau’n fwy na’r bobl hynny heb afiechyd meddwl, a bod cymaint ohyn ddim yn ymwneud â’u hanghenioniechyd meddwl. Mae hyn yn codi cwestiynauynghylch sut y mae eu pryderon iechyd eraill yn cael eu rheoli a’n bod yn myndi golli anghenion gofal sylfaenol eraill y bobl yma os ydynt ond yn trin iechydmeddwl ar wahân.
Dywedodd Felicity Dormon, Uwch Gymrawd Polisi yn yrHealth Foundation: “Mae’n hynod annheg nad ywanghenion corffol u bobl hynny ag afiechyd meddwl yn cael eu diwallu’nddigonol. Mae rhai meysydd yn treialu dulliau arloesol er mwyn datrys hyn ond nid yw hyn yn gyffredin. Yr herar gyfer gwneuthurwyr polisi ac arweinwyr lleol yw canfod y dyhead a’r adnoddaui gefnogi’r arloesed hyn a chefnogi gofal o ran graddfa a chyflymder.”
Dywedodd Nigel Edwards, Prif Weithredwr y Nuffield Trust: “Mae’r cyfraddau uwch o bobl hyn sydd yn gorfod mynd i’rysbyty a hynny heb gynllunio neu am bethau y mae modd eu hosgoi, yn destun prydercenedlaethol. Ond gyda’r hinsawdd economaidd yn effeithio ar wasanaethau iechydmeddwl ar lefel awdurdod lleol a’r GIG, mae sicrhau cysondeb rhwng iechydmeddwl ac iechyd corffol yn mynd i barhau i fod yn ddyhead yn hytrach narealiti
Mae astudiaeth y Nuffield Trust a’r Heath Foundation yncael eu cyhoeddi fel rhan o’r rhaglen QualityWatch dros bum mlynedd. Mae’n cynnig ffordd newydd i fesurcynnydd tuag at gysondeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol, sef amcan polisi’rholl brif bleidiau gwleidyddol.
Er mwyndarllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma.