Astudiaeth newydd yn datgelu anghydraddoldeb ‘syfrdanol’ o ran y gofal brys sy’n cael ei roi i bobl ag afiechyd meddwl

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd gan y Nuffield Trusta’r Health Foundation yn awgrymu nad yw pobl yn Lloegr sydd ag afiechyd meddwlyn elwa drwy sicrhau bod rhywun yn rheoli eu hiechyd corfforol yn ddigonol, ahynny er eu bod yn adnabyddus i’r GIG am fod anghenion iechyd meddwl ganddynt.

Roedd pobl ag afiechyd meddwl yn Lloegr yn gorfod myndi’r ysbyty  bum gwaith yn fwy’r llynedd o gymharu â’r sawl heb afiechydmeddwl; er hynny, nid oedd angen diwallu eu hanghenion iechyd meddwl yn ymwyafrif o’r achosion yma ac roedd modd osgoi llawer ohonynt. 

Roedd pobl ag afiechyd meddwl yn mynd i’r ysbyty ar frys 4.9 o weithiau yn fwynag eraill.  

Ar ôl gwerthuso mwy na  100 miliwn o gofnodion ysbyty’r flwyddyn, roedd yrymchwil yn cymharu’r defnydd a wneir o’r ysbyty gan ddau grŵp o gleifion; poblsydd wedi bod yn yr ysbyty yn y gorffennol yn sgil eu hiechyd meddwl a phoblsydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty am resymau na sydd ymwneud â’u hafiechydmeddwl. Mae’r dadansoddiad yn edrych ar batrymau achosion brys ac achosionarferol rhwng 2009/10 a 2013/14.

Mae’n canfod bod:

  • Pobl ag afiechyd meddwl wedi mynd i’r ysbyty ar frys 4.9 o weithiau yn fwy nag eraill ac yn mynd i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys 3.2 o weithiau’n fwy  na’r rhai heb afiechyd meddwl ym 2013/14.
  • Er yn meddu ar brofiad blaenorol o afiechyd meddwl, dim ond 20% o’r grŵp hyn a oedd wedi gorfod mynd i’r ysbyty ym 2013/14 oedd wedi mynd yno yn sgil anghenion iechyd meddwl.
  • Roedd pobl ag afiechyd meddwl 3.6 o weithiau yn fwy tebygol o brofi achosion yr oedd modd eu hatal o gymharu â phobl heb afiechyd meddwl ond hefyd yn fwy tebygol o orfod mynd i’r ysbyty ac aros yno heb gynllunio
  • O ran trin rhai afiechyd corfforol cyffredinol, roedd pobl ag afiechyd meddwl yn fwy tebygol o orfod delio gyda hyn ar frys yn hytrach na chynllunio pethau, aros yn yr ysbyty yn hirach neu dros nos. Er enghraifft, o’r bobl ag afiechyd meddwl difrifol a oedd wedi cael llawdriniaeth i gael clun newydd, roedd 40% o bobl wedi gwneud hyn ar frys yn hytrach na chynllunio mynd i’r ysbyty; ymhlith pobl heb afiechyd meddwl difrifol, y gyfran oedd  8%.

Wrth wneud sylw ar y canfyddiadau,dywedodd Holly Dorning, Dadansoddwr Ymchwil yn y Nuffield Trust: “Mae’n syfrdanol bod pobl ag afiechyd meddwl yn defnyddio gofal bryscynifer o weithiau’n fwy na’r bobl hynny heb afiechyd meddwl, a bod cymaint ohyn  ddim yn ymwneud â’u hanghenion iechyd meddwl.  Mae hyn yn codicwestiynau ynghylch sut y mae eu pryderon iechyd eraill yn cael eu rheoli. Osydym yn mynd i barhau i drin iechyd meddwl ar wahân heb ystyried unrhyw betharall, byddwn yn colli anghenion gofal sylfaenol eraill y bobl yma.”

DywedoddFelicity Dormon, Uwch Gymrawd Polisi yn yr Health Foundation: “Mae’n hynod annheg nad yw anghenion corffol y bobl hynny ag afiechydmeddwl yn cael eu diwallu’n ddigonol. Mae rhai meysydd yn treialu  dulliauarloesol er mwyn datrys hyn ond nid yw hyn yn gyffredin. Yr her ar gyfergwneuthurwyr polisi ac arweinwyr lleol yw canfod y dyhead a’r adnoddau i gefnogi’rarloesed hyn a chefnogi gofal  o ran graddfa a chyflymder.”

DywedoddNigel Edwards, Prif Weithredwr y Nuffield Trust: “Mae’rcyfraddau uwch o bobl hyn sydd yn gorfod mynd i’r ysbyty a hynny heb gynllunioneu am bethau y mae modd eu hosgoi, yn destun pryder cenedlaethol. Ond gyda’rhinsawdd economaidd yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl ar lefel awdurdodlleol a’r GIG, mae sicrhau cysondeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corffol ynmynd i barhau i fod yn ddyhead yn hytrach na realiti.”

Mae astudiaeth y Nuffield Trust a’r Heath Foundation yn cael eu cyhoeddi felrhan o’r rhaglen  QualityWatch dros bum mlynedd. Mae’n cynnig fforddnewydd i fesur cynnydd tuag at gysondeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol, sefamcan polisi’r holl brif bleidiau gwleidyddol.

Ermwyn darllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma.

www.hafal.org