Cofiwch: Diwrnod Amser i Siarad 2016 i’w gynnal wythnos nesaf!

Mae’n ‘Diwrnod Amser i Siarad 2016′ wythnos nesaf (4ydd Chwef): sefdiwrnod pan fydd Amser i Newid Cymru yn gofyn i’r genedl i neilltuo pum munud  i gael sgwrs am iechyd meddwl.  

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru Antony Metcalfe: “Mae delioâ phroblem iechyd meddwl yn ddigon anodd, ond weithiau, mae’r ymdeimlad oarwahanrwydd a’r stigma yn medru gwaethygu pethau. Ond mae modd i ni oll i chwalu’rdistawrwydd hyn. Nid yw siarad am iechyd meddwl yn gorfod bod yn anodd ac mae’nmedru gwneud cryn wahaniaeth. Dyna pam ein bod yn gofyn i chi dreulio 5 munudyn cael sgwrs am iechyd meddwl. 

“Mae yna lawer o ffyrdd y mae modd i chi fanteisio ar y 5 munudyma, p’un ai bod hynny yn y gwaith, yr ysgol,  ar-lein, yn y gymuned neu gyda ffrindiau atheulu. Mae llawer o awgrymiadau gennym a deunydd i gefnogi’r hyn yr ydych yn ei wneud. Rydym yn annog pobl i ddefnyddio ein tudalendigwyddiadau  a chofnodi’rhyn y maent yn gwneud ar Diwrnod Amser i Siarad a’r sgyrsiau y maent yn eu cael.” 

Nod Diwrnod Amser i Siarad  yw  annog cynifer ro bobl ag sy’n bosib ar drawsCymru i siarad am iechyd meddwl fel bod modd chwalu’r distawrwydd ynghylchstigma.

Gyda degau o filoedd o unigolion a channoedd o fudiadau yn siarad yngyhoeddus gyda’i gilydd, y gobaith yw y bydd Diwrnod Amser i Siarad yn caeleffaith sylweddol ac yn dangos ei fod wir yn amser i siarad.

Dewch i ganfod mwy am Diwrnod Amser i Siarad2016