Mae’r GIG yn Lloegr wedi ymrwymo i’r trawsnewidiad mwyaf o ofal iechydmeddwl ar draws y GIG mewn cenhedlaeth a’n addo helpu mwy na miliwn o boblychwanegol a buddsoddi mwy na biliwn o bunnoedd y flwyddyn erbyn 2020/21.
Mae hyn yn digwydd fel ymateb i adroddiad terfynol gweithlu annibynnol, a gadeiriwyd gan Brif Weithredwr Mind, Paul Farmer. Fe’i trefnwyd gan y GIG felrhan o’r rhaglen Edrych Ymlaen Pum Mlynedd y GIG er mwyn adeiladu consensws arsut i wella gwasanaethau i bobl o bob oedran.
Mae’r tasglu yn cynnig asesiad gonest o gyflwr gofal iechyd meddwl cyfredolar draws y GIG, gan amlygu’r ffaith fod un ym mhob pedwar person yn mynd ibrofi problem iechyd meddwl yn ystod eu bywydau ac yn nodi bod afiechyd meddwlyn costio £105 biliwn i’r economi, y GIG a chymdeithas yn gyffredinol.
Mewn pecyn o argymhellion eang eu hystod, mae’n cynnig dull triphlygtuag at wella gofal drwy ymatal, ehangu gofal iechyd meddwl megis cynnigmynediad dros saith diwrnod adeg argyfwng a gofal iechyd meddwl a chorfforolintegredig.
Mae’r gweithlu yn awgrymu a’r GIG yn derbyn bod angenbuddsoddi mwy na £1 biliwn y flwyddyn ychwanegol mewn gofal gan y GIG erbyn2020/21, a hynny er mwyn cyrraedd miliwn mwy o bobl – mae’r buddsoddiad hwn arben y cyllid newydd sydd wedi ei gyhoeddi cyn hyn ar gyfer plant, pobl ifanc agofal amenedigol.
Dywedodd Simon Stevens, Prif Weithredwr GIG Lloegr: “Byddun o bob pedwar ohonom yn dioddef iselder, gorbryder neu broblem iechyd meddwl arallond mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi eu trin yn draddodiadol fel gwasanaethaueilradd. Mae gosod iechyd meddwl a chorfforol ar lefel gydradd yn golygu bodangen gwelliannau sylweddol mewn gofal argyfwng iechyd meddwl dros saithdiwrnod, cynnydd sylweddol mewn triniaethau seicolegol a dull mwy integredigynghylch y mae modd gwasanaethau yn cael eu darparu. Dyna’r hyn y mae adroddiady gweithlu yn galw amdano heddiw a dyna’r hyn y mae’r GIG wedi ymrwymo i’wgyflawni.”
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: “Nid oes yna ddigon offocws wedi bod ar ofal iechyd meddwl yn y wlad hon ers tro byd, gan olygu fodllawer wedi gorfod dioddef mewn distawrwydd.
“Mae’r Gweithlu wedi amlinellu sut y mae modd i ni weithio tuag osodgofal iechyd meddyliol a chorfforol ar lefel gydradd ac rwyf yn ymrwymo isicrhau bod hyn yn digwydd..
“Os ydych yn cael trafferth ymdopi â chyflwr iechyd meddwl, byddwch ynderbyn yr help a’r cymorth sydd angen arnoch .”