Agorodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro gyfleuster iechyd meddwl newydd aphwrpasol yr wythnos diwethaf yn Ysbyty’r Brifysgol yn Llandochau, sef Hafan y Coed. Mae’r cyfleuster newydd yn anelu i gynnigamgylchedd modern, therapiwtig i oedolion sydd yn profi problemau iechyd meddwlac sy’n ffocysu ar adferiad.
Mae Hafan y Coed,mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth a staff yn darparu amgylchedd igleifion mewnol sydd wedi ei nodweddu gan ‘agoredrwydd, diogelwch, gofal acadferiad’.
Mae LlywodraethCymru wedi buddsoddi £88 miliwn yn yr uned newydd er mwyn sicrhau bodcyfleusterau modern o’r radd flaenaf ar gael i bobl sydd yn profi problemauiechyd meddwl. Bydd defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn eu gofal mewn lleoliad syddmor wahanol i Ysbyty’r Eglwys Newydd.
Dywedodd AnnieProcter, Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol ar gyfer Iechyd Meddwl; “Mae Hafan y Coed yngyfleuster o’r radd flaenaf a fydd yn galluogi ein staff i ddarparu’r gofal a’rcymorth y mae defnyddwyr gwasanaeth yn haeddu pan eu bod yn sâl. Mae’n golygu ybydd pobl ag afiechyd meddwl nawr yn derbyn y driniaeth sydd angen arnynt mewncyfleuster sydd yn lleddfol, yn groesawgar ac yn helpu eu hadferiad.”
Mae Romy Wood ynDdefnyddiwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl o Gaerdydd a dywedodd yntau; “Rwyf yncredu fod y cyfleuster newydd hwn yn ffanatig ac yn noddfa yng ngwir ystyr ygair.
“Mae Hafan y Coedyn amgylchedd cyfeillgar, croesawgar lle y mae modd i chi weld eich hun yngwella. Mae yna ymdeimlad bod pobl yn gofalu amdanoch.”
Dywedodd yr AthroMark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; “Mae’n bleser iweld y buddsoddiad yn Hafan Y Coed yndwyn ffrwyth. Mae dyluniad yr adeilad a’r ffordd y mae’r ganolfan adferiad honwedi ei hadeiladu yn wych ac rwyf yn sicr y bydd yn gwneud gwahaniaethgwirioneddol i bobl sydd angen gofal mewn ysbyty.”