Bydd timau penodedig yn cael eu sefydlu yn ysbytai Cymru i ddarparu cefnogaeth ymarferol i bobl ag anghenion iechyd meddwl, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford. Fel rhan o £30 miliwn ar gyfer iechyd meddwl a phobl hŷn yn 2016-17, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2.3 miliwn i greu’r timau newydd hyn o staff a fydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol, yn enwedig gyda’r nos ac yn ystod y nos, ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl, yn cynnwys dementia.
Bydd £1.5 miliwn ychwanegol ar gael i wasanaethau cymorth iechyd meddwl gofal sylfaenol lleol er mwyn cefnogi Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ymhellach. Bydd hyn yn darparu mwy o gapasiti i ymateb i anghenion iechyd meddwl pobl yn lleol.
Fydd £1.15 miliwn yn cael eu byddsoddi i gyllido therapïau seicolegol o fewn gwasanaethau preswyl ar gyfer pobl hŷn ac iechyd meddwl oedolion. Bydd hwn yn cefnogi’r buddsoddiad ychwanegol o £1.9 miliwn ar gyfer darparu therapi seicolegol i oedolion, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd:
- £1 miliwn o gyllid afreolaidd i leihau amseroedd aros ar gyfer clinigau cof lleol ac asesiadau cychwynnol ar gyfer dementia
- £325,000 ar gyfer gweithwyr cymorth trosiannol/adferol, a fydd mewn timau seicosis ymyrraeth gynnar, i hybu adferiad gweithredol ar gyfer pobl ifanc sydd wedi datblygu salwch meddwl difrifol – mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn gwella’r canlyniadau hirdymor yn sylweddol
- £329,000 o gyllid afreolaidd i hybu ac amddiffyn hawliau pobl nad oes ganddynt y capasiti i wneud hynny
- £100,000 ar gyfer ymgyrch ddementia a fydd yn canolbwyntio ar hybu iechyd ac ar atal.
Meddai’r Athro Drakeford:
“Iechyd meddwl yw sylfaen pob iechyd. Gall un o bob pedwar ohonom ddisgwyl dioddef o salwch meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau.
“Dyna pam rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru – mae hyn yn arwydd clir o ymrwymiad y llywodraeth hon i wella iechyd a lles meddyliol pobl ledled y wlad.
“Bydd hyn yn darparu cefnogaeth yn y gymuned i bobl â dementia a’u teuluoedd, ymhlith grwpiau eraill.”
Mae’r £30 miliwm ar gyfer iechyd meddwl a phobl hŷn yn 2016-17 yn ychwanegol at y £15 miliwn a mwy o gyllid afreolaidd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2015.