Mae adroddiad newydd gan y Ganolfan Iechyd Meddwl yn nodi’r meysyddallweddol sydd angen eu gwella o ran y gofal iechyd meddwl sy’n cael eiddarparu ar draws y system cyfiawnder troseddol yn Lloegr a Chymru.
Gyda chyfraddau eithriadol o uchel o afiechyd meddwl ymhlith yboblogaeth sydd yn ein carchardai, mae’r adroddiad “Mental health andcriminal justice” yn trafod profiadau o Loegr a Chymru er mwyn pennu’rffordd orau ymlaen.
Wedi ei gomisiynu gan yr Adran Iechyd a’r WeinyddiaethGyfiawnder, roedd Dr Graham Durcan o’r Ganolfanwedi arwain yr ymgynghoriad ar draws Lloegr a Chrymu er mwyn adolygu profiadaumwy na 200 o bobl sydd â phrofiad personol neu broffesiynol o’r rhyngweithiorhwng y system cyfiawnder troseddol a gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae’r adroddiad yn canfod mai nifer fechan o’r carchardai agynrychiolwyd yn y digwyddiadau a oedd yn medru cynnig therapïau seicolegol abod gofal iechyd meddwl yn parhau fel yr elfen wannaf o gymorth iechyd meddwlmewn carchardai. I lawer o bobl, mae gadael y carchar yn gyfnod o argyfwng. Maellawer heb unrhyw gartref i fynd iddo a heb unrhyw ffynhonnell o incwm. Mae’radroddiad yn galw am ‘goncordat’ newydd rhwng asiantaethau gwahanol yllywodraeth er mwyn dod at ei gilydd i helpu pobl drwy’r cyfnod anodd hwn.
Mae themâu allweddol o’r adroddiad yn cynnwys y canlynol:
· Mae angen i CCG gymryd mwy o rôl arweiniol wrth gomisiynu gwasanaethauiechyd meddwl i bobl sydd yn cael eu rhyddhau o’r ddalfa
· Mae’n rhaid cludo unigolion o’r carchar i wardiau seiciatryddol ynghynt
· Dylid ystyried y cyfnod o ryddhau unigolyn o’r carchar fel ‘cyfnod oargyfwng’ a dylid cynnig cymorth priodol
· Rhaid i adrannau’r llywodraeth sicrhau fod gweithwyr proffesiynol yn ysystem cyfiawnder troseddol yn derbyn hyfforddiant iechyd meddwl gorfodol
· Dylai adroddiadau seiciatryddol ar gyfer y llysoedd gael eu paratoi gan seiciatryddionsydd yn gweithio gyda throseddwyr, yn deall y system llysoedd ac yn gweithio’nlleol
· Dylai’r holl garchardai weithio tuag at gyflawni safonau AmgylcheddauGalluogi Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
· Dylai darparwyr prawf gael mynediad at gymorth iechyd meddwl (megiscymorthfeydd ymgynghori)
· Mae angen fframwaith cenedlaethol ar gyfer gosod safonau mewn carchardaiar gyfer gofal iechyd meddwl.
Yn ychwanegol at hyn, roedd y sawl a fu’n cymryd rhan ynteimlo’r angen am:
· Prosesau sgrinio ac asesu cadarn ar gyfer ystod o beryglon ym mhob math osefyllfa
· Mwy o gymorth a gofal i bobl – doed a ddelo ble ydynt
· Darparu cymorth ymarferol (e.e. gyda thai a dyled) ar gyfnodau penodol(e.e. pan fydd unigolion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty)
· Mabwysiadu dull mwy seicolegol sy’n ffocysu ar drawma ar draws yr hollwasanaethau cyfiawnder a darparu hyfforddiant i bawb sy’n gweithio yn y meysyddyma
· Mwy o gyfleoedd i gael mynediad at ymyriadau seicolegol yn y gymuned a’rddalfa, sef ymyriadau sydd yn cael eu haddasu i adlewyrchu anghenion cymhleth alluosog
· Cynyddu’r defnydd o fentoriaid a chyfoedion a llais defnyddwyrgwasanaeth yn y broses o gynllunio adarparu gwasanaethau.