Bydd cynhadleddac arddangosfa Iechyd Meddwl HeddiwCymru 2016yn cael eu cynnal yn y Motorpoint Arena, Caerdydd ar Fai’r18fed 2016.
Mae Iechyd MeddwlHeddiw Cymruyn arddangosfa sydd yn dwyn ynghyd 400 o ymwelwyr, 15 arddangosfa a rhaglenseminar aml-ffrwd.
Bydd y gynhadleddyn cael ei chynnal ychydig o wythnosau wedi’r etholiad i Gynulliad CenedlaetholCymru, ac felly, bydd y seminar yn bwrw golwg ar ble y mae polisi iechyd meddwlam fynd nesaf. Mae’r gynhadledd Gymreig sylweddol hon ar gyfer y sector iechydmeddwl cyfan – gweithwyr proffesiynol a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau – ahynny ar draws y sectorau statudol ac annibynnol.
Y thema ar gyferdigwyddiad Iechyd Meddwl Heddiw Cymru eleni yw “Cael llais a rhywun iwrando arnoch”.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys seminar aml-ffrwd a fydd yn cael ei chynnal ardraws tair ystafell wahanol, gyda phob un yn cynnig thema wahanol:
- Y Brif Ystafell – Polisi
- Ystafell 2 – Ymchwil/Arloesedd
- Ystafell 3 – Practis
Bydd siaradwyr ynsôn am enghreifftiau o arferion da ac yn rhoi canllawiau ymarferol a bydd seminarau yn ymdrin â materion cyfoes sydd yn ymwneud â’rsetcor iechyd meddwl.
Yn yr ardalarddangos, bydd prosiectau arloesol a mudiadau sydd yn cynnig dewis a rheolaethi bobl sydd yn byw â materion iechyd meddwl, yn cael eu harddangos drwy’r dydd.
Bydd rhaglengynhwysol o seminarau sydd wedi eu hachredu gan CPD yn cynnwys cynrychiolaethsy’n deillio o’r gymuned iechyd meddwl gyfan – comisiynwyr, gwneuthurwyr polisi,elusennau, darparwyr, gweithwyr cymorth, ac yn fwy pwysig na dim, gwasanaethau.
Darllenwch mwyyma am y digwyddiad @ https://www.mentalhealthtoday.co.uk/mental-health-today-wales-2016/