Mae’rPrif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd wrth i LywodraethCymru ddechrau ei rhaglen pum mlynedd newydd.
Mae Vaughan Gething, a oedd yn Ddirprwy Weinidogdros Iechyd, yn dod yn Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.
Mae Rebecca Evans wedi ei hapwyntio yn Weinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasolac Iechyd Cyhoeddus.
Wrth gyhoeddi ei Gabinet, dywedodd Carwyn Jones: ““Mae’n bleser cael cyflwyno’r tîm a fydd yn symud Cymru ymlaen yn ystody pum mlynedd nesaf. Bydd gan bob un rôl hanfodol wrth fynd ati i gyflawni einblaenoriaethau, gan arwain a chyfarwyddo gwaith Llywodraeth Cymru ar ran poblCymru.
“Mae pum mlynedd allweddol o’n blaenauni. Fe fydda i, y Cabinet a’r Gweinidogion yn mynd ati’n diflino i wella einheconomi a’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl Cymru yn dibynnu arnynnhw bob dydd.”