Mae’r ŵyl gelfyddydauiechyd meddwl Gymreig yn nôl am ei ail flwyddyn!
Bydd yr ŵyl, sydd wedi eithrefnu gan fudiad Celfyddydau Anabledd Cymru, Ynys Môn a Gwynedd Mind a MakingMinds yn rhedeg nifer o ddigwyddiadau o amgylch Cymru dros fis Hydref aThachwedd 2016.
Mae’r ŵyl wedi cael eiariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yngNghymru, y Ganolfan Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl / Canolfan MRC (PrifysgolCaerdydd) a Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru, a bydd yr ŵyl yn:
– Dathlu y berthynassydd rhwng y celfyddydau a iechyd meddwl
– Addysgu, lleihau ystigma a herio canfyddiadau sydd o amgylch iechyd meddwl
– Cynyddu mynediadi/ymrwymiad yn y celfyddydau ymhlith y rhai sydd yn cael profiad o broblemauiechyd meddwl
– Darparu platfform achodi ymwybyddiaeth o artistiaid newydd a rhai mwy adnabyddus sydd yn byw gydasalwch meddwl.
Thema yr ŵyl y flwyddyn honyw ‘Walls:Muriau’. Bydd yr ŵyl, sydd wedi dod o feddyliaucredigol pobl gyda phrofiad o broblemau iechyd meddwl ynghyd a phobl sydd heb yprofiad hynny, yn edrych ar y waliau sydd yn cael eu rhoi i fyny a’r bariau(corfforol ac agweddol) sydd yn bodoli ar gyfer y rhai sydd yn cael profiad obroblemau iechyd meddwl.
Mae Sara Mackay,Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru, yn dweud: “Yng nghyd-destun ycelfyddydau ac iechyd meddwl, mae waliau yn llawn mynegiant. Fe all olyguwaliau yn y meddwl, waliau mewn galeri, theatr neu sinema, waliau mewn ysbyty,y blwch yr ydych yn teimlo eich bod yn ffitio i fewn iddo pan rydych yn caeldiagnosis, neu’r waliau sydd yn rhaid i chi eu goroesi oherwydd stigma. Fe allhyd yn oed fod yn waliau yr ydych chi wedi torri trwyddynt wrth wellhau!”
Mae rhaglen yr ŵyl yncynnwys pedwar diwrnod a phedair noson o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fyddyn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwn Cymru, gan gynnwys perfformiad ganOnly Boys Aloud. Bydd Gwyneth Lewis, y bardd enwog o Gymru, hefyd yn perfformioyng Nghanolfan Mileniwm Cymru, sydd yn arddangos ei geiriau ‘In these stoneshorizons sing’. Bydd gweithgareddau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwysgweithdai, perfformiadau ar lwyfan Glanfa, a chyfres o berfformiadau byr ynStiwdio Weston. Bydd Re-Live, mudiad sydd yn rhoi cefnogaeth i gyn-filwyr syddyn cael profiad o Anhwylder Straen Wedi Trawma, ymhlith y rhai a fydd ynperfformio.
Bydd arddangosfa, perfformiada ffilm i’w weld yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Bydd cynrychiolwyr o’r Ŵyl AlbanaiddCelfyddydau a Ffilmiau Iechyd Meddwl, sydd wedi ysbrydioli yr ŵyl Gymreig, ynrhan o’r sgriniad o’r ffilm. Bydd siaradwyr arbenigol eraill yn ymgynnull argyfer cyfres o drafodaethau a sgrinio ffilm yn y Galeri, Caernarfon, tra byddyr artist tirluniau Iwan Gwyn Parry yn egluro sut mae arlunio yn ‘ennaint i’wgadw yn iach’.
Bydd rhan Gogledd Cymru o’rrhaglen yn diweddu gyda arddangosfa ffotograffiaeth, a fydd yn arddangosdarluniau wedi eu tynnu gan pobl ifanc lleol.
Yn nôl yn Ne Cymru, byddarddangosfa dros gyfnod o fis yn ngaleri cyhoeddus Hearth yn Ysbyty Llandochau.Bydd yno hefyd ddigwyddiad yn Celf o Gwmpas yn Llandrindod, tra fydd y BlackwoodLittle Theatre yn arddangos eu cyflwyniad o ‘Ruins of Talgarth’ mewn sawllleoliad.
Mae Clare Bailey o Ynys Môna Gwynedd Mind yn dweud “Yn dilyn y llwyddiant a’r adborth bositif o’ndigwyddiadau fel rhan o’r Ŵyl Celfyddydau Iechyd Meddwl Gymreig y flwyddyndiwethaf, rydym yn edrych ymlaen unwaith eto i’n digwyddiadau yr hydref yma afydd yn profocio’r meddwl, yn gwneud i chi gwestiynu, a fydd yn greadigol ac ynysbrydoli.
Rydym yn credu fod ycelfyddydau a ffilmiau yn sianelau gwych er mwyn codi ymwybyddiaeth a galluoginewid, ac fod artistiaid erioed wedi chwarae rhan allweddol mewn symudiadaucymdeithasol ac i annerch materion. Maent yn gyfranogol i newidiadau ac maeangen newidiadau agweddiadol ac ymddygiadol o amgylch iechyd meddwl, gan ygymdeithas ehangach a gan y rhai hynny sydd yn gweithio yn y gwasanaeth.”
Mae Mark Smith o MakingMinds yn dweud: “Rydym wrth ein bodd fod yr ŵyl yn cael ei chynnal y flwyddynyma unwaith eto. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan y buddsoddwyr a’rymdrech sydd yn cael ei wneud gan ein cyd-drefnwyr. Yn bendant mae’r ŵyl wedigwneud datblygiad da ers y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn gobeithio bydd hyn ynarwain at brofiad mwy difyr a fydd yn profocio’r meddwl ac yn adloniadol i bawba fydd yn dod i weld y digwyddiadau a’r gweithgareddau fydd yn cael eu rhedeg.”
Daeth Mark, Sara a Clare ateu gilydd y flwyddyn diwethaf i sefydlu yr ŵyl gelfyddydau iechyd meddwlGymreig.
Bydd mwy o wybodaeth am yrŵyl yn cael ei ryddhau yn y dyfodol agos, gan gynnwys rhaglen mwy manwl.Gallwch weld gwybodaeth am yr ŵyl ar Facebook ar facebook.com/wallsmuriau ac arTwitter ar @wallsmuriau2016. Mae gwefan ar gyfer yr ŵyl yn cael ei datblygu arhyn o bryd, a bydd cyfeiriad y wefan yn cael ei ryddhau yn fuan.