Rhifyn yr hydref o’r cyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru ar-lein nawr

Mae rhifyn Hydref 2016 o’r cyfnodolyn IechydMeddwl Cymru ar-lein nawr  ac mae’nrhifyn arbennig am iechyd corfforol. Yn y rhifyn hwn, rydym yn siarad gyda’rseren pêl-droed Lee Trundle am ei gefnogaeth tuag at Hafal a’r heriau iechydmeddwl sydd yn wynebu pobl ym myd chwaraeon; rydym yn siarad â chleientiaidHafal Blaenau Gwent sydd wedi bod yn chwarae pêl-droed tra’n cerdded er mwyngwella eu hiechyd meddwl; at hyn, rydym yn siarad â’r seiciatrydd, yr AthroTayyeb Tahir, am y berthynas rhwng iechyd meddwl a chorfforol.  Mae’r cyfnodolyn yn cynnwys cyngor allweddolar y camau sydd angen eu cymryd er mwyn byw bywyd mwy iachus, gan gynnwyscyngor am amcanion iechyd corfforol a’r cefnogwyr y dylid eu cynnwys mewncynllun gofal a thriniaeth. Lawrlwythwch y cyfnodolyn yma