Mae pobl ag afiechyd meddwl yn fwy tebygol o ddioddef trais, yn ol adroddiad

Mae adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb aHawliau Dynol yn awgrymu fod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a  namau cymdeithasol neu ymddygiadol yn profilefelau uwch o drais.

Ymhlith pobl syddyn hŷn na 16 mlwydd oed ac yn meddu ar nam cymdeithasol neu ymddygiadol, megisawtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio neu syndrom Asperger, roedd 35% wedidioddef  trosedd yn y flwyddyn flaenorol,fel sydd wedi digwydd i 30% o’r bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, megisiselder.

Dywedodd Cadeiryddy Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol David Isaac: “Mae pobl sydd ag afiechydon meddwl a namau cymdeithasol neu ymddygiadol ynprofi’r camddealltwriaeth a diffyg ymddiriedaeth fwyaf yn ein cymdeithas. Er ycynnydd sydd wedi ei wneud o ran y ffordd yr ydym yn meddwl am  bobl sydd ag anableddau ‘gweledol’, maecasineb tuag at faterion iechyd meddwl yn parhau’n gyffredin iawn. 

“Mae ein hymchwilyn cadarnhau fod pobl ag afiechydon meddwl yn fwy tebygol na’r person cyffredino ddioddef trais, a hynny mewn gwrthgyferbyniad i’r rhagfarn sydd yn cysylltutroseddu gydag iechyd meddwl.”

Dywedodd RheolwrPolisi ac Ymgyrchoedd Mind, Geoff Heyes: “Mae pobl sydd â phroblemau iechydmeddwl dal yn wynebu  stigma agwahaniaethu, hyd yn oed gan y rhai hynny sydd yno i’w cefnogi. Mae byw gydaphroblem iechyd meddwl nid yn unig yn eich gwneud yn fwy tebygol o  ddioddef trosedd, ond mae ymchwil gan Gymorthi Ddefnyddwyr a Mind wedi canfod fod dioddefwyr, sydd â hanes o broblemauiechyd meddwl, hefyd yn cael eu hanwybyddu; nid oes neb yn eu credu neu maenthyd yn oed yn cael eu beio.  

“Rydym yncroesawu’r gwaith ymchwil pwysig hwn ac yn bles iawn i weld fod y nifer odroseddau  casineb yn erbyn pobl anabl syddwedi eu cofnodi wedi cynyddu, a hynny efallai gan fod yr heddlu, comisiynwyr,asiantaethau cymorth, llywodraethau lleol a chenedlaethol yn gweithio gyda’igilydd yn well  er mwyn dileu’r  rhwystrau y mae dioddefwyr yn wynebu pan yn  rhoi gwybod iddynt am drosedd.”