“Mae angen i ni siarad Cymru”: Clymblaid Newydd yn lansio adroddiad yn galw am well mynediad at therapïau seicolegol

Mae clymblaid newydd o elusennau iechyd meddwl,sefydliadau proffesiynol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru yn dweud bodcleifion angen gwell mynediad i therapïau seicolegol. Tra’n cydnabod  buddsoddiad diweddar Llywodraeth Cymru yn ymaes hwn, mae’r glymblaid ‘Mae angen i ni siarad (Cymru)’  yn pryderu bod gormod o bobl yn dal i aros ynrhy hir i gael mynediad at therapïau seicolegol ac ddim yn cael digon o ddewisdros y math, amseriad a lleoliad y math yma o driniaeth.

Heddiw (Hydref y 4ydd o, 2016), bydd yGlymblaid yn cyhoeddi adroddiad sy’n hyrwyddo pedair blaenoriaeth allweddolwrth wella mynediad i gleifion at therapïau seicolegol. Mae’r adroddiad, a fyddyn cael ei lansio gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol,Rebecca Evans AC yn dweud:

• Dylai pobl o bob oed gael mynediad itherapïau seicolegol o fewn 28 diwrnod mewn gofal sylfaenol ac eilaidd

• Dylai pobl allu gwneud dewis gwybodus ynglŷna’r mynediad i ystod eang o therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

• Dylai barn defnyddwyr fod wrth wraidd ysystem – dylid eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cofnodi i wella gwasanaethau

• Dylai effaith hirdymor o therapïau seicolegolar fywydau pobl gael ei fesur gan Lywodraeth Cymru

Mae’r adroddiad yn defnyddio dystiolaeth o bobrhan o’r DU a thu hwnt sydd yn dangos bod gwell dewis a mynediad i therapïauseicolegol sy’n  seiliedig ar dystiolaethyn darparu gwell canlyniadau i unigolion, yn osgytalag arbedion i’r pwrscyhoeddus yn y maes iechyd a nawdd cymdeithasol. Mae rhaglenni fel rhaglenGwella Mynediad i Therapïau Seicolegol i yn Lloegr (IAPT) wedi darparu mynediadi dros filiwn o bobl at therapïau seicolegol ar y GIG, gydag ymchwil yn dangos gostyngiadaui ddefnydd gofal iechyd unigol a defnyddio presgripsiynau amlroddadwy yn ytymor hir.

Amcangyfrifir bod y gost o broblemau iechydmeddwl yng Nghymru yn £7.2bn y flwyddyn ac mae’r Dangosyddion RhagnodiGenedlaethol 2015-16 (Adroddiad Rhagnodi Gofal Cychwynnol Flynyddol) yn dangoscynnydd cyfartalog o 8.11% o bresgripsiynau gwrth-iselder dros 2013/14 i2014/15, gyda chynnydd yn yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Tra’ngwerthfawrogi y rôl y gall meddyginiaeth ei chwarae mewn triniaeth iechydmeddwl, mae’r Glymblaid yn credu y dylai fod mwy o ffocws ar  y mynediad at therapïau seicolegol sy’ncanolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion penodol yng Nghymru.

Mae’r Glymblaid “Mae angen i ni siarad (Cymru)”wedi croesawu y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a datblygiad yCynllun Therapïau Seicolegol Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl Oedolion, sy’n anelui wella mynediad at therapïau seicolegol. Mae’r Cynllun Cyflawni Drafft:  Law yn Llaw ar gyfer 2016-19 yntanlinellu y targed o 28 diwrnod ar gyfer ymyriadau mewn gofal sylfaenol a’rangen i fyrddau iechyd i adrodd ar yr atgyfeiriad o 26 wythnos i dargedtriniaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd arbenigol ar gyfer pob claf.Fodd bynnag, mae Clymblaid  “Mae angen ini siarad (Cymru)” yn credu y dylai pobl sydd angen gwasanaethau iechyd meddwlsylfaenol ac eilaidd gael mynediad at therapïau seicolegol o fewn 28 diwrnod odderbyn cais atgyfeirio, gan bod ymyrraeth gynnar yn gwella canlyniadau.

Cyn y lansiad, dywedodd Rebeca Evans AC,Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol,

“Ddwy flynedd yn ôl, rhoddodd LlywodraethCymru hwb ariannol sylweddol i fyrddau iechyd er mwyn gwella mynediad attherapïau seicolegol. Rydym yn deall y gall yr ymyriadau hyn leihau’r risg oatgwympo mewn pobl sy’n dioddef o iselder neu seicoses.  Ein nod yw sicrhau bod cleifion yn cael dewisgwirioneddol am yr holl opsiynau triniaeth sydd ar gael ac i weld yr ymyriadau hynar gael ar draws Cymru. ”

Dywedodd Cadeirydd Clymblaid “Mae angen i nisiarad Cymru” , Alun Thomas:

“Rydym yn cynrychioli cleifion, gofalwyr agweithwyr proffesiynol ar draws Cymru sy’n gwybod o brofiad y gall therapïausiarad fod yn hynod fuddiol yn y broses adfer. Mae yna hefyd dystiolaeth eangbod therapïau seicolegol yn arwain at arbedion sylweddol i’r sector cyhoeddusym maes gofal iechyd, gyda enillion treth a lles gyda budd-daliadau yn caeleffaiyh draws y GIG. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i 50% o bobl orfod aros mwy nathri mis ar ôl eu hasesiad i dderbyn eu sesiwn therapi cyntaf.

Fel elusennau, sefydliadau proffesiynol adarparwyr gwasanaeth, rydym wedi dod at ei gilydd er mwyn hyrwyddo y ddau cydraddoldebmynediad i gleifion, heb ots os ydynt mewn gofal sylfaenol neu eilaidd.”