Cyfweliad: Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Mae Comisiynydd  Pobl Hŷn Cymru,  Sarah Rochira, yn llais annibynnol ac yn eiriolydd ar gyfer pobl hŷn ar draws Cymru, gan siarad ar eu rhan. Mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys sicrhau fod pobl sydd yn agored i niwed ac mewn peryg yn cael eu cadw yn ddiogel ac mae’n gwarantu fod pobl hŷn yn cael llais sydd yn cael ei glywed.   Yma, rydym yn siarad gyda’r Comisiynydd am ei blaenoriaethau ar gyfer iechyd meddwl pobl hyn, a sut y dylem fynd i’r afael â materion penodol megis unigrwydd  a ‘disgyn drwy’r holltau’ sydd yn effeithio ar wasanaethau…

 

IMC: Ym mha ffyrdd y mae eich rôl yn ffocysu ar iechyd meddwl pobl hŷn a beth yw eich blaenoriaethau yn y maes hwn?

Pan yn gosod fy mlaenoriaethau ar ôl ymgymryd â’m rôl fel Comisiynydd, roeddwn yn glir iawn fod ein gwasanaethau cyhoeddus angen ffocysu dipyn yn fwy ar les meddwl pobl hŷn, a’n symud y tu hwnt i’r ffocws ar eu hiechyd corfforol, ac rwyf yn croesawu’r ffaith fod hyn yn dechrau dod i’r amlwg o ran y broses o lunio polisïau. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o ffordd i fynd er mwyn sicrhau fod gwasanaethau iechyd meddwl a pholisïau yn gydradd â meysydd eraill.

Mae fy mlaenoriaethau penodol sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl ar hyn o bryd yn cynnwys gwaith sydd yn edrych ar fynediad at wasanaethau eiriolaeth ac sy’n cychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf a gwaith i sicrhau nad yw gwasanaethau y mae pobl hŷn yn dibynnu arnynt ac yn eu cysylltu gyda’r gymuned ynghyd â rhwydweithiau cymorth yn cael eu colli yn sgil toriadau.

Fel rhan o’m Hadolygiad sydd yn edrych ar ansawdd bywyd pobl hŷn sydd yn byw mewn cartrefi gofal, un o’m Hanghenion Sydd Angen eu Gweithredu oedd sicrhau fod trigolion yn medru cael mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles arbenigol amlddisgyblaethol, tra bod  Angen arall yn galw ar roi diwedd ar y defnydd amhriodol o feddyginiaeth gwrth-seicotig, ac rwyf wedi bod yn gweithio’n agos ar hyn gyda’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

 

IMC: Mae llawer iawn o sylw wedi ei roi yn ddiweddar i ddementia ond mae Hafal yn gweithio gyda’i ffrindiau yn Bipolar UK,  Diverse Cymru a Crossroads Care Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn denu sylw at yr heriau sydd yn wynebu pobl ag afiechyd meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol wrth iddynt fynd yn hŷn. A ydych yn croesawu hyn ac a ydych yn medru awgrymu sut y mae’r grŵp hwn o gleientiaid yn cael mwy o sylw?

Rwyf wir yn croesawu hyn gan fod yna gysyniad fod afiechyd meddwl difrifol ond yn effeithio ar bobl ifanc. Er mwyn herio’r cysyniad hwn, mae’n hanfodol i godi ymwybyddiaeth nid yn unig ymhlith pobl sydd yn gweithio gyda phobl hŷn am natur ac effaith afiechyd meddwl ymhlith grwpiau oedran hŷn ond hefyd i weithio gyda’r cyfryngau er mwyn sicrhau fod yr iaith a’r delweddau sydd yn cael eu defnyddio o ran afiechyd meddwl yn adlewyrchu’r ffaith ei fod yn effeithio ar bobl o bob oedran, rhywbeth a fydd yn ein helpu i herio cysyniadau yn fwy eang ar draws ein cymdeithas.

Mae hefyd yn hanfodol fod pobl sydd yn llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yn clywed ac yn ymateb i leisiau a phrofiadau pobl hŷn sydd yn byw ag afiechyd meddwl fel nad ydynt yn cael eu hanwybyddu wrth i’r mentrau a ffynonellau posib o gymorth cael eu datblygu.

 

IMC: Yn eich ymateb i Gynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl  (Ebrill 2016), rydych yn nodi fod yna sawl newid y mae pobl hŷn yn medru profi, pan fydd cymorth ychwanegol yn fanteisiol. Pa fath o gymorth y dylid ei ddarparu a sut y mae modd atal pobl rhag ‘disgyn rhwng yr holltau’?

Mae’r cymorth ychwanegol angen ffocysu ar sicrhau fod gwasanaethau yn hygyrch, yn berthnasol ac yn effeithiol ar gyfer pobl hŷn, gan nad yw eu hanghenion yn cael eu hystyried yn llawn wrth i wasanaethau gael eu datblygu.

Er mwyn sicrhau fod llai o bobl yn  ‘disgyn rhwng yr holltau’, rhaid sicrhau fod mwy o gydlynu a chydweithredu ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â mwy o weithio fel partneriaid rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a budd-ddeiliaid allweddol eraill. Dylai hyn gael ei gefnogi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a fydd yn annog gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd gan roi mwy o ffocws ar ganlyniadau ar gyfer yr unigolyn.

Roeddem wedi cyhoeddi Canllaw i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn ddiweddar ac mae dyletswydd arnynt, o dan y Ddeddf, i gyhoeddi cynlluniau llesiant lleol. Yn y Canllaw hwn, roeddwn yn glir fod angen i’r Byrddau fynd i’r afael â ’r brif feirniadaeth o wasanaethau cyhoeddus gan bobl hŷn sydd yn cynnwys ‘Pam nad oes neb yn dweud wrthyf?’, ‘Pam nad yw pobl yn siarad â’i gilydd?’ a ‘Pam fod angen argyfwng cyn bod unrhyw  beth yn newid?’.  Bydd mynd i’r afael â’r rhain hefyd yn sicrhau fod pobl hŷn yn derbyn yr help sydd angen arnynt, a hynny pan fod agen yr hel a’u bod yn llai tebygol  o ‘ddisgyn rhwng yr holltau’ yn y gwasanaethau.

 

IMC: The Mae’r strategaeth Iechyd Meddwl Cymru yn hollol eglur wrth ddweud na ddylid llunio polisïau iechyd meddwl sydd yn berthnasol i oedran penodol. Sut mae modd sicrhau fod hyn yn cael ei weithredu’n gywir?

Nid yw bobl hŷn fel unrhyw grŵp oedran eraill, yn grŵp unffurf o bobl ac maent yn amrywio o ran eu cefndiroedd, anghenion, amgylchiadau a dyheadau.

Er mwyn sicrhau nad yw gallu pobl hŷn i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn cael ei rwystro yn sgil pobl yn cymryd pethau’n ganiataol am eu hoedran, mae’n hanfodol fod gwasanaethau wir yn dechrau ffocysu ar y person, yn ffocysu ar anghenion pob unigolyn ac yn gweithio gyda hwy er mwyn datblygu cynllun gofal, triniaeth a chymorth sydd wedi ei bersonoli.

 

IMC: Sut ydym yn delio gyda’r disgwyliadau is sydd gan nifer o wasanaethau ynghylch pobl hŷn yn gwella o afiechyd meddwl difrifol  – ac sydd gan bobl hŷn eu hunain weithiau?

Y llynedd, fel rhan o’m hymgyrch  ‘Na i Oedraniaeth’, roeddwn wedi amlygu’r ffyrdd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yn wahanol yn sgil eu hoedran ac effaith ystrydebau sydd yn ymwneud ag heneiddio, sydd yn medru golygu fod disgwyliadau pobl sydd yn darparu gofal a chymorth, yn medru bod yn is, yn enwedig mewn cyd-destun iechyd. Mae llawer o bobl yr wyf wedi cwrdd â hwy yn dweud wrthyf fod gweithwyr meddygol proffesiynol dal yn barod iawn i ddweud rhywbeth tebyg i ‘Beth ydych yn disgwyl o feddwl am eich oedran?’.

Os ydych yn edrych ar driniaeth cancr, mae yna newid sylweddol ac sydd i’w groesau wedi digwydd, gyda mwy o ffocws ar ganlyniadau cleifion, yn hytrach na  rhwystrau mympwyol megis oedran unigolyn sydd yn golygu bod mwy o bobl hŷn yn derbyn triniaethau effeithiol nag erioed o’r blaen.

Mae angen y math yma o newid ar draws ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, a byddai cam bositif ymlaen yn golygu gweld mwy o bobl hyn yn cael eu cynrychioli mewn ymgyrchoedd, deunyddiau hyfforddi ac adnoddau eraill, a hynny er mwyn gwneud yn gwbl eglur fod adferiad yn bosib ar bob adeg o fywyd.

 

IMC: Rydych wedi amlygu sut y mae arwahanrwydd ac unigrwydd yn broblem i bobl hŷn; mae ein hymchwil yn dangos fod hwn y n destun pryder i bobl hŷn ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr.  Sut y dylai gwasanaethau a’r gymdeithas fynd i’r afael â hyn?

Mae unigrwydd ac arwahanrwydd wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf r ôl i nifer o wasanaethau lleol gau neu ddirywio – megis canolfannau dydd, cludiant cyhoeddus, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus dydd – a oedd yn eu caniatáu i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau a’r rhwydweithiau cymorth  sydd yn cael effaith bositif ar eu hiechyd a’u lles.

Tra bod y pwyslais newydd ar unigrwydd yng Nghynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i’w groesawu, ynghyd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael ag unigrwydd, rhaid cydnabod fod unigrwydd yn fater iechyd cyhoeddus allweddol a rhaid ei ddatrys. Bydd hyn yn anodd – yn bennaf am nad oes modd dal unigrwydd, ac felly, mae’n anodd rhoi’r gydnabyddiaeth iddo y mae’n haeddu.

Yn sgil y pwysigrwydd o fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, dyma un o flaenoriaethau’r rhaglen  Ageing Well in Wales, sef y rhaglen bartneriaeth genedlaethol, i wella iechyd a llesiant pobl sydd yn 50 mlwydd oed a’n hŷn yng Nghymru, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, Age Cymru, Royal Voluntary Service, y Centre for Ageing and Dementia  Research a’r Campaign to End Loneliness, i ddatblygu ymdrechion i weithio ar y cyd er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ar draws Cymru.

 

Yn ystod eich gyrfa, rydych wedi gweithio ag ystod eang o fudiadau’r GIG ar draws Cymru, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Ydy’r profiad personol yma wedi dylanwadu eich agwedd tuag at hyrwyddo iechyd meddwl ymhlith pobl hŷn yn eich rôl fel Comisiynydd?

Mae fy ngwaith o fewn y GIG wedi fy nghaniatáu i ddeall y systemau a’r strwythurau sydd yn eu lle yn ein gwasanaethau iechyd a’r modd y maent yn atal pobl rhag derbyn yr help a’r cymorth sydd angen arnynt – yn  rhy aml o lawer, mae gwasanaethau yn cael eu dylunio er mwyn bod yn addas ar gyfer y system yn hytrach na’r unigolyn.

Mae fy mhrofiad o’r GIG wedi fy helpu i ddeall y pwysau sydd yn wynebu ein gwasanaethau iechyd a staff y GIG, sgil-effaith y pwysau yma ar ein gwasanaethau a’r gofal y mae pobl yn derbyn a sut y mae modd rheoli’r pwysau yma yn fwy effeithiol.  Mae’n bwysig i gofio nad oes neb yn bwriadu darparu gofal neu wasanaethau truenus a bod llawer o staff ymroddedig gennym ar bob lefel o fewn ein gwasanaeth iechyd sydd yn gweithio tuag at wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl. Ond mae angen i ni wella ar ffocysu ar ganlyniadau a gwrando ar leisiau pobl – mae’r bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau yn aml yn ‘arbenigwyr yn sgil eu profiadau’ gydag ystod o ddealltwriaeth ddefnyddiol y mae modd manteisio arni er mwyn gwneud gwelliannau.

Yn olaf, mae fy ngwaith o fewn y GIG wedi amlygu’r pwysigrwydd o fabwysiadu dull holistaidd ar draws ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – gan ganolbwyntio’n ormodol ar un agwedd, a hynny ar draul gwasanaethau eraill; gwasanaethau sydd yn medru bod yn llinell bywyd i unigolyn neu grŵp penodol, sydd yn aml yn golygu wedyn fod angen ymyriadau mwy costus yn yr hirdymor.

 

Mae llawer o gleientiaid Hafal yn teimlo eu bod yn symud i ffwrdd o wasanaethau iechyd meddwl wrth iddynt fynd yn hŷn, a hynny’n aml gan fod pobl yn cymryd yn ganiataol fod gwasanaethau i bobl hŷn yn mynd i ddarparu’r hyn sydd angen arnynt. Sut y mae modd i ni fynd i’r afael â’r ymddieithriad hwn?

Unwaith eto, mae’n ymwneud â herio’r hyn y mae pobl yn cymryd yn ganiataol. Er enghraifft, dylai’r rhai hynny sydd yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl sicrhau eu bod yn ymgysylltu gyda’r rhai hynny sydd yn darparu gwasanaethau i bobl hŷn a’n darparu gwybodaeth ac adnoddau mewn modd sydd yn ei gwneud hi’n eglur na fydd eu hoedran yn eu hatal rhag derbyn gwasanaeth.

At hyn, dylai’r bobl sydd yn darparu gwasanaethau i bobl hŷn sicrhau eu bod yn deall y cymorth sydd ar gael i’w cleientiaid â phroblemau iechyd meddwl, a hynny fel bod modd eu hatgyfeirio i’r gwasanaethau mwyaf priodol a fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau i’r unigolyn.

Fel i mi sôn uchod, dylai’r wybodaeth a’r adnoddau sydd yn cael eu cyhoeddi am wasanaethau iechyd meddwl sicrhau hefyd nad ydynt yn defnyddio iaith a/neu ddelweddau sydd yn ynysu pobl hŷn neu’n rhoi’r argraff i bobl hŷn nad yw’r gwasanaeth yn berthnasol neu ar gael iddynt.

 

Sut ydym yn delio gyda’r broblem o  bobl hŷn ag afiechyd meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol sydd yn mynd yn hen ac yn colli eu rhieni sy hŷn a’u gofalwyr pan mai hwy oedd yr unig ddarparwyr o ran cymorth, eiriolaeth a chyswllt cymdeithasol am flynyddoedd lawer?  

Mae’n debyg fod hon yn broblem sy’n mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf ac felly, mae’n hanfodol fod unigolion a’u gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) fel eu bod yn medru ymgysylltu gyda gwasanaethau cymdeithasol yn gynnar er mwyn sicrhau bod modd cynllunio eu hanghenion gofal a chymorth yn y tymor byr a’r tymor hir.

Bydd sicrhau fod hawl pobl hŷn i dderbyn eiriolaeth broffesiynol annibynnol yn cael ei ddiogelu hefyd yn fwy pwysig nag erioed er mwyn sicrhau fod y rhai hynny sydd ei angen yn medru cael gafael ar rywun i gynrychioli eu buddiannau. Fel i mi grybwyll uchod, byddaf yn dechrau darn o waith yn y Flwyddyn Newydd yn edrych ar fynediad at eiriolaeth ynghyd â phrofiad o eiriolaeth, a fydd yn cynnwys mynediad at Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolwyr Galluedd Meddwl Annibynnol gan fod rôl y gweithwyr proffesiynol yn aml yn cael eu camddeall gan wasanaethau cyhoeddus.

Mae yna angen am ddealltwriaeth ehangach ynghylch pwysigrwydd eiriolaeth yn ei holl ffurfiau sydd yn mynd i’r afael â diffygion yn y maes hwn, a hynny ar y cyd gyda’r angen i ymgysylltu ag unigolion sydd o bosib wedi eu heffeithio ar ôl colli eu rhieni a’u gofalwyr, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael clywed a’u bod yn derbyn y cymorth a’r canllawiau sydd angen arnynt ar adeg anodd iawn.

 

Am fwy o wybodaeth am waith y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i: www.olderpeoplewales.com