Mae’r elusen iechyd meddwl Seisnig Rethink wedi lansio pecyn cyngor yn rhad ac am ddim sydd yn esbonio sut y bydd newidiadau newydd i’r system fudd-daliadau yn mynd i effeithio ar bobl ag afiechyd meddwl.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am y Taliad Annibyniaeth Bersonol newydd sydd yn disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl. Mae hefyd yn cynnig cyngor ar sut y bydd newidiadau i’r Budd-dal Treth Cyngor, Budd-dal Tai a’r Gronfa Gymdeithasol yn medru effeithio ar y grŵp hwn.
Dywedodd Paul Jenkins, Prif Weithredwr ‘Rethink Mental Illness’: “Mae’r Llywodraeth wedi gwneud newidiadau mawr i’r system fudd-daliadau yn ddiweddar ac rydym am sicrhau bod pobl ag afiechyd meddwl yn derbyn y wybodaeth gywir ynghylch sut y mae hyn yn effeithio arnynt.
“Rydym wedi paratoi’r pecyn hwn fel gall pobl ganfod yr hyn sydd angen arnynt mewn iaith Saesneg syml. Gyda’r wybodaeth yma, rydym yn gobeithio y bydd pobl yn teimlo yn fwy hyderus am yr hyn sydd yn digwydd ac yn medru galw am y gefnogaeth sydd angen arnynt.”
Mae modd lawrlwytho’r pecyn yn rhad ac am ddim yma: http://www.rethink.org/benefitsupdate