“Diffyg gweithwyr iechyd meddwl Cymraeg” – ymchwil Cymdeithas

Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth a wnaed gan Gymdeithas yr Iaith yn dangos bod diffyg staff sy’n medru’r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd meddwl, gyda’r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn cyflogi canran llawer is na’r boblogaeth o siaradwyr Cymraeg yn eu hardaloedd.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf, gyda 1.9% yn unig o’r staff iechyd meddwl yn medru’r Gymraeg. Ym mwrdd iechyd Hywel Dda, sy’n gwasanaethu siroedd Dyfed, dim ond 16.7% oedd yn medru’r iaith i lefel ganolradd neu’n uwch. Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd â´r ganran uchaf, gyda 30% o’r staff ym maes iechyd meddwl yn medru’r Gymraeg, ffigwr sy’n agos at ganran siaradwyr yr iaith ar draws y rhanbarth.

Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y Byrddau Iechyd yn galw am well cynllunio’r gweithlu a mwy o hyfforddiant iaith i’r staff, er mwyn cynyddu’r gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

Yn y llythyr dywed Manon Elin, cadeirydd Grŵp Hawliau’r Gymdeithas:

‘Rydyn ni fel mudiad yn aml yn derbyn cwynion gan ein haelodau am fethiant i dderbyn gwasanaeth iechyd yn Gymraeg. Mae’n hynod o bwysig bod cleifion yn medru derbyn triniaeth yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda materion iechyd meddwl gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses o wella. Mae’n ofynnol i’r claf fynegi ei deimladau yn iawn er mwyn cael y diagnosis cywir. Gall problemau cyfathrebu arwain at ddiagnosis anghywir a chamddealltwriaeth. Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae’n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad.

Mae’n bwysig bod y gwasanaethau ar gael yn Gymraeg, ac yn cael eu cynnig i gleifion yn rhagweithiol, yn hytrach na bod y cyfrifoldeb ar y claf i ofyn amdano. Yn aml nid ydy defnyddwyr y gwasanaethau iechyd meddwl mewn sefyllfa i fynnu eu hawliau i wasanaeth Cymraeg, a gall gwneud cais am wasanaeth Cymraeg deimlo’n amhriodol mewn sefyllfa o’r fath. Felly, mae’n hanfodol bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael ac yn cael ei gynnig iddynt yn rhagweithiol.

Meddai Arddun Rhiannon, sy’n byw yn agos i Gaernarfon, sydd wedi ei heffeithio gan y diffyg gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg:

‘Mae’r diffyg gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn siomedig dros ben. Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n hyfforddi ac yn denu mwy o weithwyr Cymraeg i’r maes hwn oherwydd dylai pawb fod â’r opsiwn i dderbyn darpariaeth safonol yn eu hiaith gyntaf – yn enwedig gan fod cyfathrebu clir yn rhan mor annatod o wasanaeth iechyd meddwl effeithiol. Pe byddwn i wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg, fe fuasai’r profiad wedi bod yn un llai rhwystredig, a’n fwy buddiol i mi yn y tymor hir. Mae siarad am eich problemau yn anodd fel mae, heb sôn am orfod ei wneud yn eich ail iaith.’

 

Matthew Pearce Head of Communications Hafal