“Y rhan fwyaf o bobl yn y byd ag iselder yn derbyn triniaeth annigonol,” yn ôl astudiaeth

Mae’r rhan fwyaf o bobl ag iselder ar draws y byd yn derbyn triniaeth sydd ond yn ddigonol ar eu cyflwr, a hynny yn ôl astudiaeth newydd o fwy na 50,000 o bobl mewn 21 gwlad gan King’s College Llundain, Ysgol Feddygol Harvard a Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’r ymchwil, sydd wedi ei gyhoeddi yn y British Journal of Psychiatry yn sôn fod triniaeth yn amrywio’n sylweddol ymhlith y 4,331 o bobl ag iselder mewn 21 o wledydd a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg. Mewn gwledydd incwm uchel dim ond un ym mhob pum person ag iseler oedd yn derbyn triniaeth ddigonol. Mae’r sefyllfa yn waeth mewn gwledydd tlawd lle mai ond un ym mhob 27 person ag iseler sydd yn derbyn triniaeth ddigonol

Ar draws y byd, mae tua 350 miliwn o bobl o bob oedran yn dioddef iselder a’r cyflwr yw’r prif achos o anabledd ar draws y byd. Mae yna ymwybyddiaeth gynyddol fod modd rhoi diagnosis dibynnol o iselder a’i drin drwy ofal cynradd gan ddefnyddio therapi seicolegol neu feddyginiaeth – ond nid yw’r triniaethau yma – sydd wedi eu profi’n wyddonol fel rhai effeithiol – yn cael eu darparu ar raddfa eang.

Roedd yr ymchwilwyr wedi dadansoddi data o Arolwg Iechyd Meddwl y Byd Sefydliad Iechyd y Byd, sef cyfres o 23 arolwg cymunedol mewn 21 gwlad. Roedd y rhain yn cynnwys 10 gwlad incwm isel neu ganolig (Brasil, Bwlgaria, Colombia, Iraq, Lebanon, Mecsico, Nigeria, Gweriniaeth Y Bobl Tsieina (PRC), Peru a Romania) ac 11 gwlad incwm uchel (yr Ariannin, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, Israel, yr Eidal, Siapan, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Sbaen a’r UDA).

Roedd yr ymchwilwyr wedi diffinio triniaeth sydd ond yn ddigonol fel derbyn ‘pharmacotherapy’ (o leiaf mis o feddyginiaeth a phedwar ymweliad neu fwy gyda’r meddyg) neu seicotherapi (o leiaf wyth ymweliad gyda gweithiwr proffesiynol gan gynnwys cynghorydd crefyddol neu ysbrydol, gweithiwr cymdeithasol neu gwnselydd).

Dywedodd yr Athro Graham Thornicroft o’r Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth (IoPPN) yn King’s College Llundain a oedd wedi arwain yr astudiaeth: ‘Rydym yn galw ar fudiadau cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau fod adnoddau ar gael ar gyfer cynyddu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl fel nad yw pobl ag iselder yn cael eu gadael ar ôl. Mae ein canlyniadau yn dynodi fod llawer o’r triniaethau sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd i bobl ag iselder yn ddiffygiol o ran y meini prawf ar gyfer triniaethau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth a’n effeithiol.

‘Yn ddiddorol, roedd tua hanner o’r bobl ag iseler yn credu nad oedd eu problem hwy angen triniaeth ac roedd y gyfran hon wedi disgyn i dua thraean mewn gwledydd tlawd. Mae hyn yn awgrymu’n gryf bod angen i ni gefnogi pobl ag iselder ac aelodau teulu i gydnabod fod y cyflwr sydd ganddynt yn rhywbeth y mae modd ei drin a dylent fynd ati i chwilio am driniaeth a gofal.’

Ychwanegodd yr Athro Thornicroft: ‘Mae darparu triniaeth ar y raddfa sydd angen i’r holl bobl ag iseler yn hanfodol, nid yn unig er mwyn lleihau anabledd a hunanladdiad ond hefyd o bersbectif moesol a dynol ac i helpu pobl i chwarae rhan lawn yn eu cymunedau.’

Roedd yr astudiaeth hon wedi ei chynnal ar y cyd gyda Menter Arolwg Iechyd Meddwl y Byd sydd yn rhan o waith Sefydliad Iechyd y Byd.