Roedd mwy na 92,000 o sesiynau cwnsela Childline wedi eu cynnal gyda phlant a phobl ifanc am iechyd meddwl a lles yn 2015/16. O’r rhain, roedd mwy na 50,000 yn ymwneud â theimladau o hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau iechyd meddwl neu iselder.
Mae hyn yn cyfateb i tua 1 sesiwn cwnsela bob 11 mis.
Mae ffigurau’r NSPCC hefyd yn datgelu:-
- 50,819 o sesiynau cwnsela am y materion iechyd meddwl yma yn 2015/16
- Roedd 1 ym mhob 6 o holl sesiynau cwnsela Childline yn ffocysu ar y materion iechyd meddwl yma
- Roedd merched bron 7 gwaith yn fwy tebygol o chwilio am help o’u cymharu â bechgyn.
Mae’r NSPCC yn dweud fod y ffigyrau yma yn codi pryderon pellach am y lefel o ofal iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc.
Mae’r ystadegau yn amlygu sut y mae pobl ifanc yn gynyddol yn gorfod delio ag ystod o broblemau sydd yn cynnwys anhwylderau iselder a theimladau o hunan-niweidio a hunanladdiad.
Roedd y cynnydd mwyaf o ran sesiynau cwnsela sydd wedi eu darparu dros y 4 mlynedd ddiwethaf ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl a gorbryder, sef cynnydd o 36%.
Roedd yna gynnydd hefyd yn y nifer o sesiynau cwnsela ar gyfer pobl yn profi teimladau o hunanladdiad.
Roedd mwy na 1 ym mhob 3 o’r sesiynau cwnsela yma a oedd yn delio â materion iechyd meddwl yma wedi eu cynnal gydag unigolion rhwng 12 a 15 mlwydd oed.
Dywedodd y Fonesig Esther Rantzen, Llywydd Childline: “Mae’n syfrdanol faint o blant sydd yn dioddef afiechyd meddwl difrifol heddiw, a hynny o’i gymharu â’r cyfnod pan lansiwyd Childline 30 mlynedd yn ôl.
“Mae cynifer o blant sydd yn wirioneddol drist yn profi teimladau sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, yn dechrau profi gorbryder ac iselder, gyda llawer ohonynt yn troi at Childline gan nad oes cymorth arall ar gael.
“Yn sgil yr holl alw, rydym yn gwybod nad oes digon o adnoddau gan CAMHS sydd yn golygu nad yw pobl ifanc yn medru cael mynediad at y cymorth proffesiynol sydd angen arnynt. Rydym yn credu fod angen mwy o bwyslais ar ddarparu help i’r plant yma wrth iddynt brofi trafferthion tra’n ceisio delio ag afiechydon difrifol iawn.”