Mae rhifyn Gwanwyn 2017 o’r cyfnodolyn Iechyd Meddwl yn rhifyn arbennig ar gyn-filwyr
ac yn cynnwys cyfweliad gyda’r awdur Matt Johnson am ei brofiad o oresgyn PTSD, a darn yn sôn am Change Step – gwasanaeth cymorth sydd yn cael ei ddarparu gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr – gan y Cyfarwyddwr, Geraint Jones.
At hyn, mae yna newyddion am ymgyrch newydd yn 2017 sy’n ymdrin ag iechyd meddwl ymhlith cyn-filwyr a lansiad gwasanaeth cyngor ariannol newydd i oedolion ag afiechyd meddw.