Mae’r gynhadledd a’r arddangosfa flynyddol Iechyd Meddwl Heddiw Cymru i’w chynnal yn y Motorpoint Arena, Caerdydd ar Fai’r 10fed 2017. Bydd yr arddangosfa yn dwyn ynghyd 400 o ymwelwyr, 15 o arddangoswyr a rhaglen seminar aml-gyfrwng.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys ystod o arbenigwyr o’r sector iechyd meddwl a fydd yn cyflwyno amryw o destunau, gan ffocysu ar arferion gorau, canllawiau ymarferol ac arloesedd yn y dyfodol. Yn benodol, bydd y gynhadledd yn darparu’r tair “ffynhonnell ganlynol o arbeniged”:-
- Datblygu gwasanaethau iechyd meddwl newydd yng Nghymru
- Cymorth gan gymheiriaid a gwasanaethau sydd yn cael eu harwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth
- Iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Bydd y rhaglen yn cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned iechyd meddwl gyfan, gyda chomisiynwyr, gwneuthurwyr polisi, elusennau, gofalwyr teuluol, gweithwyr cymorth – ac yn fwy pwysig – defnyddwyr gwasanaeth yn rhoi eu mewnbwn a’u harbenigedd.